Cysylltiad rhwng tabledi cysgu ac achosion o dorri asgwrn y glun ymhlith yr henoed
27 Ebrill 2017
Mae'r tebygolrwydd y bydd pobl hŷn â phresgripsiwn newydd ar gyfer tabledi cysgu fel bensodiasepinau a 'chyffuriau Z' yn torri asgwrn eu clun yn ystod y pythefnos cyntaf bron ddwywaith yn fwy nag ymhlith pobl nad ydynt yn defnyddio'r cyffuriau, yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg y Brenin Llundain.
Esboniodd Dr Ben Carter, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth, Coleg y Brenin Llundain: “Er bod mwy a mwy o feddygon yn dewis cyffuriau Z wrth roi presgripsiwn am gyffuriau cwsg, nid oes unrhyw dystiolaeth eu bod yn fwy diogel na bensodiasepinau o ran y risg o dorri asgwrn y glun.”
Cynydd sylweddol
“Mae ein hastudiaeth yn dangos bod presgripsiwn gan feddygon ar gyfer y naill gyffur a'r llall yn achosi cynydd sylweddol yn y risg o dorri asgwrn y glun.”
Canfu'r astudiaeth o bobl dros 65 oed fod y gyfradd torri asgwrn ymhlith defnyddwyr newydd y meddyginiaethau cwsg hyn bron ddwywaith a hanner yn fwy, o'u cymharu â phobl hŷn nad ydynt yn cymryd cyffuriau cwsg. Amcangyfrifwyd bod cynnydd o tua 53% yn y risg o dorri asgwrn ymhlith defnyddwyr yn y tymor canolig (rhwng 15 a 30 diwrnod), a chynnydd o 20% yn y risg o dorri asgwrn y glun ymhlith defnyddwyr yn y tymor hir (mwy na 30 diwrnod).
Ychwanegodd Dr Carter: “Dylid ystyried y risg fwy o dorri asgwrn y glun yn ofalus, er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau clinigol...”
Mae'r ymchwil yn cefnogi astudiaethau blaenorol sy'n cysylltu defnydd o gyffuriau cwsg ymhlith pobl hŷn â risg uwch o ddamweiniau, dibyniaeth, dirywiad gwybyddol a thorri asgwrn y glun. Credir hefyd fod y cyffuriau'n achosi syrthni ac oedi o ran amserau ymateb, ac yn amharu ar gydbwysedd cleifion.
Cyhoeddir ‘Benzodiazepines, Z-drugs and the risk of hip fracture: A Systematic Review and Meta-Analysis’ heddiw yn PLOS ONE.