Sgrinio cyn geni ar gyfer syndrom Down yn cael ei weld fel “arfer cyffredin”
24 Ebrill 2017
Mae'r dewis o sgrinio cyn geni ar gyfer syndrom Down wedi dod yn rhan 'gyffredin' o feichiogrwydd. Er hyn, mae hyn yn cael effaith ar fenywod a'u partneriaid yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Mewn astudiaeth o weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd sy'n sgrinio ar gyfer syndrom Down yn y DU, mae Dr Gareth Thomas o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd yn dangos sut mae sgrinio ar gyfer y cyflwr wedi dod yn gam disgwyliedig yn ystod beichiogrwydd.
'Gwrdd â'r babi'
Mae'r weithdrefn ddewisol o sgrinio ar gyfer syndrom Down wedi dod yn drefn arferol o ganlyniad i'r iaith a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol a darpar rieni yn ystod ymgynghoriadau, i'r modd y defnyddir sganiau uwchsain fel ffordd o 'gwrdd â'r babi' a'r sylwadau cynnil ond clir sy'n creu portread negyddol o'r anabledd.
Meddai Dr Thomas: “Yn y DU a thu hwnt, mae sgrinio ar gyfer syndrom Down wedi dod yn rhan o'r cynllun gofal cyn geni. Er hyn, mae technolegau wedi llwyddo i normaleiddio hyn fel rhywbeth 'y dylech ei wneud'. Er enghraifft, gall hyn arwain at fenywod beichiog – a'u partneriaid hefyd o bosibl – yn cydsynio â gweithdrefn feddygol heb wybod yn llawn beth fydd y canlyniadau sy'n dilyn. O ganlyniad, ni fyddant yn gwybod am y penderfyniadau anodd y bydd angen eu gwneud yn ystod eu beichiogrwydd.
“Mae'r ymchwil hon yn dangos bod llawer o broblemau a phryderon ynghylch y broses sgrinio ar gyfer syndrom Down fel y mae’n cael ei chynnal ar hyn o bryd. Mae'r sgrinio yn dal i ddigwydd er bod adroddiadau yn sôn am brofiadau ansicr a phroblematig menywod beichiog, a gwelir gwrthwynebiad i'r broses gan ysgolheigion a grwpiau gweithredol o wahanol wledydd...”
“Er bod hyn yn cael ei weld fel rhywbeth arloesol ym maes gwyddoniaeth ac yn arwydd o gynnydd wrth i fenywod beichiog wneud penderfyniadau, mae hefyd wedi cael ei feirniadu gan sefydliadau hawliau anabledd. Maen nhw'n honni bod y sgrinio yn cynnig math o ewgenig ac yn annog pobl i feirniadu'n negyddol bywydau plant ag anableddau.
“Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n rhoi sylw i ddatblygiadau tebyg, ac yn ystyried yr holl faterion cymdeithasol a moesegol sy'n ymwneud â'r profion hyn (NIPT). Rwyf o'r farn bod y materion a godir yn yr ymchwil hon yn fan cychwyn cryf i'r drafodaeth.”
Cyhoeddir yr ymchwil yn llyfr newydd Dr Thomas, 'Down’s Syndrome Screening and Reproductive Politics' sydd ar gael nawr.