Ap adrodd storïau Sain Ffagan yn dod â’r Amgueddfa yn fyw
20 Ebrill 2017

Mae ap adrodd stori newydd yn helpu i ddod ag un o amgueddfeydd mwyaf adnabyddus Cymru yn fyw.
Mae prosiect Olion - partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Prifysgol Caerdydd a yello brick, cwmni marchnata a gemau creadigol - yn tywys ymwelwyr ar daith gorfforol o amgylch gerddi’r castell yn Sain Ffagan, yn symud o ffaith i ffuglen, y gorffennol a’r presennol.

Lluniwyd y rhaglen i’w defnyddio yn ystod oriau agor arferol Sain Ffagan. Mae’n para 30 munud, wedi’i rhannu’n bedair pennod, a gall gael ei mwynhau gan unigolyn neu fesul pâr. Gan dynnu ar ddeunydd o archifau’r Amgueddfa mae’r stori yn adrodd hanes cymeriadau allai fod wedi cael eu gweld yn crwydro’r castell a’r gerddi yn nechrau’r ugeinfed ganrif.
Dywedodd Dafydd James, Pennaeth Cyfryngau Digidol, Amgueddfa Cymru: “Mae’n bleser cael cydweithio â Phrifysgol Caerdydd a yello brick i gynnig rhywbeth newydd i ymwelwyr â’r Amgueddfa.
“Mae’r dehongliad creadigol hwn yn herio ymwelwyr i ymwneud â Sain Ffagan mewn modd gwahanol ac i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd i fwynhau stori yn nhawelwch gerddi hanesyddol y castell. Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd yn dal dychymyg ein hymwelwyr.”
Meddai Dr Jenny Kidd, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein bodd yn lansio Traces/Olion, penllanw partneriaeth dros nifer o flynyddoedd rhwng yello brick, Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd...”

“Mae diddordeb y cyhoedd mewn amgueddfeydd a lleoliadau treftadaeth, eu hymddiriedaeth ohonynt, a’u hoffter o leoliadau fel Sain Ffagan yn parhau yn uchel. Mae Traces/Olion yn gyfle unigryw i ymwelwyr brofi, ac efallai i deimlo, rhywbeth gwahanol ar dir Sain Ffagan. Mae gennym ddiddordeb ym mhotensial profiadau treftadaeth o’r fath i esgor ar fathau gwahanol o berthynas rhwng pobl a lleoedd.”
Bydd angen pâr o glustffonau a dyfais symudol gyda system weithredu ar gyfer IOS ac Android ac uwch ar ymwelwyr. Gallwch lawrlwytho ap Olion o siop ITunes neu o Google Play. Argymhellir eich bod yn lawrlwytho’r ap, sydd yn rhad ac am ddim, cyn i chi gyrraedd Sain Ffagan. Ni fydd angen cysylltiad data arnoch yn ystod y profiad. Mae mynediad i Sain Ffagan yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Rhannu’r stori hon
Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.