Gwobr Dathlu Effaith ESRC 2017
20 Ebrill 2017
Mae ymchwilydd yn y Brifysgol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at asesu a lleihau'r niwed y mae troseddu cyfundrefnol a throseddau ariannol yn ei achosi ar lefel genedlaethol a byd-eang ar y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog.
Enwebwyd yr Athro Michael Levi o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol yng nghategori Effaith Ryngwladol ar gyfer Gwobr Dathlu Effaith 2017 y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Mae'r Wobr, sydd bellach yn ei phumed flwyddyn, yn gyfle i gydnabod a gwobrwyo ymchwilwyr y mae eu gwaith wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i'r gymdeithas neu'r economi.
Yn ystod ei yrfa, mae ymchwil helaeth yr Athro Levi i dwyll, gwyngalchu arian, a throseddu cyfundrefnol wedi gwneud gwrth-strategaethau yn y DU a thramor yn fwy effeithiol.
Wrth gynnal y dadansoddiad cyntaf ar raddfa fawr o droseddau ariannol yn y DU, cyfrifodd yr Athro Levi yn 2007 fod twyll yn costio'r wlad o leiaf £13 biliwn bob blwyddyn – gwaith a wnaeth arwain at ragor o welliannau yn y DU ac ar gyfer Senedd Ewrop. Yn ddiweddar, gyda chydweithwyr eraill yng Nghaerdydd, mae wedi nodi'r effaith y mae technolegau newidiol megis twyll a gwyngalchu arian drwy'r we yn ei chael.
Ymchwil ac arbenigedd
Mae ei ymchwil wedi dangos dulliau newydd o fesur llifoedd arian anghyfreithlon, ac wedi awgrymu bod angen i strategaethau ar gyfer troseddu cyfundrefnol yn Ewrop symud i ffwrdd o ddefnyddio atafaeliadau ac arestiadau fel dangosyddion perfformiad, a chanolbwyntio ar leihau'r niwed y mae troseddu ariannol yn ei achosi yn lle.
Mae ymchwil ac arbenigedd yr Athro Levi wedi llywio strategaethau twyll, gwyngalchu arian, a throseddu cyfundrefnol Swyddfa Gartref y DU, asiantaethau gorfodi y DU, a chyrff rhyngwladol fel y Comisiwn Ewropeaidd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol a'r Tasglu Gweithredu Ariannol, a chwmnïau cyfrifyddu rhyngwladol.
Mae ei waith hefyd wedi dylanwadu ar sut mae cenedlaethau rhyngwladol a chyrff traws-ffiniol wedi datblygu a gweithredu dulliau o fynd i'r afael â throseddu ariannol. Defnyddiwyd ei ymchwil ynglŷn â gamblo a gwyngalchu arian gan lywodraeth yr Almaen wrth benderfynu sut i ehangu ei deddfwriaeth gwyngalchu arian yn 2013 i gynnwys gamblo ar-lein am y tro cyntaf.
Dywedodd yr Athro Levi: “Rydw i wedi fy symbylu gan yr her o wneud synnwyr o'r materion anodd hyn. Os ydw i wedi helpu eraill i ddatblygu dulliau mwy gwybodus o drin rhai o broblemau troseddu mawr ein hoes, mae hynny'n wobr dda am fy ymdrechion i yn ogystal â'r nifer o ymarferwyr a chydweithwyr academaidd sydd wedi fy helpu drwy rannu eu syniadau.”
Cynhelir seremoni Gwobr Dathlu Effaith ESRC yn Llundain ar 21 Mehefin 2017.