Gofal Dydd y Brifysgol yn cyrraedd carreg filltir
20 Ebrill 2017
Mae babanod ac oedolion yn cael eu gwahodd i ddathlu pen-blwydd Canolfan Gofal Dydd Prifysgol Caerdydd.
Ar 10 Mehefin 2017, bydd y Ganolfan Gofal Dydd yn 40 oed a chynhelir parti awyr agored ar gyfer rhieni, eu plant, teuluoedd a ffrindiau sydd wedi defnyddio’r Ganolfan dros y blynyddoedd.
O'r camau a’r geiriau cyntaf
Ers ei sefydlu ym 1977, mae'r Ganolfan wedi gofalu am filoedd o fabanod a phlant bach y staff, y myfyrwyr a’r cyhoedd.
O'r camau a’r geiriau cyntaf, mae’r Ganolfan Gofal Dydd yn cynnig amgylchedd hapus a diogel lle gall babanod a phlant rhwng 10 wythnos a 5 oed dyfu a datblygu.
Meddai Jacqui Kempa, Rheolwr y Ganolfan Gofal Dydd: “Rwyf wedi bod yn gweithio yn Ganolfan yma ers 22 mlynedd ac wedi cael y fraint o wylio’r plant o dan ein gofal yn tyfu. Gweld effaith ein gofal a’n hamgylchedd ar eu bywydau cynnar yw un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil o’r swydd hon…”
“Bydd digonedd o hwyl i bawb o bob oed, felly dewch draw ar bob cyfrif.”
Cynhelir y parti awyr agored ddydd Sadwrn 10 Mehefin rhwng 11 a 3 o’r gloch yn y Ganolfan Gofal Dydd ym Mhlas y Parc. Mae’r digwyddiadau sy’n cael eu paratoi ar y diwrnod yn cynnwys cystadleuaeth coginio, barbeciw a llu o weithgareddau y gall plant ac oedolion eu mwynhau.
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw - dewch draw ar y diwrnod.