Canolfan ymchwil dementia £13m
20 Ebrill 2017
Bydd gan Brifysgol Caerdydd rôl bwysig ym menter ymchwil fwyaf y DU ym maes dementia drwy lansio canolfan ymchwil dementia £13m.
Gyda’r posibilrwydd o gael £17m yn rhagor o arian ymchwil dros y pum mlynedd nesaf, y ganolfan newydd ym Mhrifysgol Caerdydd fydd y buddsoddiad mwyaf erioed mewn astudiaethau gwyddonol ym maes dementia yng Nghymru.
Ganfod, trin ac atal dementia
Bydd y ganolfan ymchwil newydd yn un o chwe chanolfan yn y DU ac felly’n rhan bwysig o Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI). Menter newydd gwerth £250m yw’r sefydliad hwn sydd wedi’i ariannu gan y Gymdeithas Ymchwil Feddygol, Cymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer y DU. Ei nod yw canfod ffyrdd o ganfod, trin ac atal dementia a gofalu am bobl sy’n dioddef o’r cyflwr. Mae’r canolfannau newydd yn fuddsoddiad pwysig gan UK DRI gan fod cyfanswm o £55m yn cael ei roi i ganolfannau ar gyfer rhaglenni sylfaen ac adnoddau.
Yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru ac Athro Geneteg Niwroseicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd, fydd yn arwain y ganolfan newydd.
Bydd hefyd yn Gyfarwyddwr Cyswllt i Sefydliad Ymchwil Dementia DU. Dywedodd: “Bydd UK DRI ym Mhrifysgol Caerdydd yn gam enfawr ymlaen o ran ein helpu i ddeall y clefydau cymhleth hyn a chynhyrchu triniaethau newydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol...”
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Yng Nghymru y ceir y cyfraddau gwaethaf yn y DU ar gyfer canfod dementia. Mae hyn yn effeithio ar y gefnogaeth a roddir i’r unigolion sydd wedi’u heffeithio, a’u teuluoedd...”
“Drwy lansio canolfan newydd DRI UK ym Mhrifysgol Caerdydd, byddwn yn adeiladu ar y sylfaen gadarn hon i ganfod ffyrdd newydd o fynd i’r afael â dementia.”
Bydd hyd at 60 o ymchwilwyr gwyddonol yn cael eu cyflogi yn y ganolfan yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd nesaf, a’u nod fydd deall hanfodion y clefyd a datblygu therapïau newydd. Disgwylir i raglen datblygu ymchwil arwain at gynnydd yn nifer y staff gwyddonol wrth iddi ehangu ar ôl y cyfnod cychwynnol pum mlynedd o hyd.
Bydd y Ganolfan yn adeiladu ar lwyddiant Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd yn defnyddio’r dros 30 o enynnau sydd wedi’u canfod gan wyddonwyr yng Nghymru sy’n cyfrannu at naill ai glefydau Alzheimer neu Huntington.
“Enw da rhyngwladol”
Ychwanegodd yr Athro Bart De Strooper, Cyfarwyddwr UK DRI: “Y weledigaeth a rennir rhwng y canolfannau fydd wrth wraidd llwyddiant DRI, a’r creadigrwydd hwn fydd yn ein helpu i ddeall dementia mewn gwirionedd a sut mae gwahanol fathau o’r clefyd yn datblygu. Fe ddewiswyd y canolfannau gennym ar sail gwyddoniaeth arloesol a rhagorol, tystiolaeth o arweiniad cadarn, sut maent yn cyd-fynd â nodau DRI yn gyffredinol, a’u gallu i dyfu a chydweithio wrth i waith y sefydliad fynd o nerth i nerth.
“Bydd pwyslais Prifysgol Caerdydd ar imiwnedd cynhenid yn ein galluogi i gael dealltwriaeth ehangach o effaith aflonyddgar dementia. Mae gan yr Athro Williams enw da rhyngwladol am ei brosiectau genetig graddfa fawr. Ochr yn ochr â’r posibilrwydd o gymhwyso rhaglenni ei thîm, mae cyfle cyffrous i ddatblygu yn y ganolfan hon.”
Bydd UK DRI yn ategu gwaith Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatreg a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Ymchwil Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a Rhwydwaith Ymchwil Dementia Prifysgol Caerdydd. Bydd adeilad Hadyn Ellis y Brifysgol yn cael ei adnewyddu i fod yn gartref ar gyfer y ganolfan newydd.
“Wella bywydau pobl”
Dywedodd y Gweinidog Gwyddoniaeth, Jo Johnson: “Mae dementia yn effeithio ar filiynau o bobl ledled y byd, ond gallwn wella bywydau pobl yn sylweddol drwy ddeall y clefyd yn well.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw am leoliadau canolfannau’r sefydliad yn dangos y cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ymchwil sydd yn y DU a sut gallwn fod ar flaen y gad wrth ddatblygu triniaethau newydd i fynd i’r afael â’r clefyd hwn...”
Bydd y canolfannau eraill yng Ngholeg Prifysgol Llundain (pencadlys DRI), Prifysgol Caergaint, Prifysgol Caeredin, Coleg Imperial Llundain a Choleg y Brenin Llundain.