Academydd Blaenllaw o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â Phanel Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
21 Ebrill 2017
Mae academydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd ar fin ymuno â chorff sy’n helpu i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.
Bydd Yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter, yn gweithio gydag 13 o arbenigwyr o’r DU ar Banel Cynghori Ymchwil Ryngddisgyblaethol (IDAP).
Sefydlwyd y grŵp i gynghori’r tîm a fydd yn arwain y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf. Cyhoeddwyd canlyniadau diweddaraf REF yn 2014.
Meddai’r Athro Delbridge, sy’n arwain datblygiad Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ar ran y Brifysgol, ac sydd hefyd yn Athro mewn Dadansoddiad Sefydliadol: “Pleser o’r mwyaf yw cael fy mhenodi i fod ar y panel. Mae gan y REF rôl hanfodol wrth ddyrannu cyllid ymchwil ar draws prifysgolion y DU. Ond mae hefyd yn arwydd o sut gallai blaenoriaethau ymchwil fod yn newid gan hyrwyddo arferion arloesol...”
Bydd y panel yn cyfrannu at ddatblygu’r rheolau a’r dull gweithredu a ddefnyddir ar gyfer y REF nesaf, a bydd yn cwblhau ei waith cychwynnol yn ystod yr haf 2018.
Mae’r REF yn broses asesu ac adolygu gan gymheiriaid sy’n cynnwys uwch-academyddion y DU, defnyddwyr ymchwil o sefydliadau y tu hwnt i addysg uwch, a chynghorwyr rhyngwladol. Defnyddir y canlyniadau i helpu i ddyrannu cyllid blynyddol cyrff ariannu addysg uwch y DU ar draws prifysgolion y DU.
Dyma bedwar corff ariannu’r DU: Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC); Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE); Cyngor Cyllido’r Alban (SFC), ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon (DfE).