Penodi Dr Ton Hall fel Pennaeth Ysgol
13 Ebrill 2017
Mae Dr Tom Hall wedi’i benodi fel Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae’n cymryd yr awenau gan yr Athro Amanda Coffey, a ymgymrodd a’i rôl fel Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd ym mis Medi 2016.
Fel rhan o’r rôl newydd hon, bydd Dr Hall yn gyfrifol am gyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Yn flaenorol, ef oedd Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol.
Wrth siarad am ei rôl newydd, meddai Dr Hall: "Rydw i wrth fy modd yn cymryd y cyfrifoldeb newydd hwn ac yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda chydweithwyr dros y misoedd nesaf i gynllunio maint, siâp a rhagolygon yr Ysgol. Sefydlwyd yr Ysgol ym 1999, a bydd yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 2020. Rydw i’n awyddus ein bod ni’n cyrraedd y garreg filltir bwysig hon gyda hyder a sicrwydd ynghylch pwy ydym ni, beth ydym ni’n ei wneud a beth ydym ni’n sefyll drosto."
Mae Dr Hall wedi bod yn aelod academaidd o’r Ysgol ers ei sefydlu gyntaf, gan ddod i Gaerdydd o Brifysgol Caergrawnt. Ac yntau’n aelod o Gymdeithas Gymdeithasegol Prydain, mae Dr Hall wedi gwasanaethu’n flaenorol fel Trysorydd y Gymdeithas ac fel Golygydd ei chyfnodolyn blaenllaw, Sociology. Mae hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Anthropolegol Brenhinol ac yn Gymrawd Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru.