Atal pydredd dannedd ymysg plant
13 Ebrill 2017
Mae rhoi farnais fflworid ar ddannedd plant yr un mor effeithiol ar gyfer atal pydredd dannedd â'r dull arall o selio dannedd, a gallai arbed arian i'r GIG, yn ôl astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Fel rhan o astudiaeth 'Sêl neu Farnais?', a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, cafodd mwy nag 800 o blant eu trin naill ai â sêl tyllau neu farnais fflworid er mwyn darganfod pa driniaeth oedd yn cynnig y gwerth gorau am arian ar gyfer plant rhwng 6 a 7 oed.
Haen blastig a roddir ar ddannedd er mwyn atal bwyd a bacteria rhag glynu wrthynt yw sêl tyllau, ac maent yn para am sawl blwyddyn. Neu, gellir rhoi farnais fflworid ar ddannedd ddwywaith y flwyddyn i roi amddiffyniad ychwanegol.
Ymhlith plant a gafodd y driniaeth â fflworid, roedd gan 17.5% ohonynt bydredd ar eu cilddannedd a oedd yn ddigon gwael bod angen llenwad neu fod angen tynnu'r dant allan ar ôl tair blynedd. Yn y grŵp a gafodd ei drin â sêl, roedd gan 19.6% o blant bydredd yn eu cilddannedd cyntaf. Dros y tair blynedd cafodd £68.13 ei arbed yn y grŵp a gafodd ei drin â'r farnais.
Dywedodd arweinydd yr astudiaeth, yr Athro Ivor Chestnutt, o Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos bod farnais fflworid yn atal pydredd dannedd yr un mor dda â thriniaeth sy'n anoddach ac yn ddrytach. Mae defnyddio farnais fflworid yn broses syml ac mae'r ymyrraeth yn llai cymhleth na'r hyn sydd ei hangen ar gyfer gosod sêl blastig...”
Pydredd yn y dannedd yw un o'r clefydau mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar ddynol ryw. Mae gan 35% o boblogaeth y byd, sef 2.4 biliwn o bobl, bydredd yn eu dannedd parhaol sydd heb ei drin. Mae'r cilddannedd oedolyn cyntaf sy'n torri trwodd pan mae rhywun yn 6 oed, yn enwedig, mewn perygl o bydru.͏ Achosir pydredd yn y dannedd gan groniad o blac ͏͏– haen o facteria sy'n ymosod ar y dannedd. Deiet yw un o'r prif ffactorau sy'n achosi plac i dyfu, a bwydydd a diodydd sy'n llawn siwgr yw'r prif gyfranwyr. Yn aml, mae cyfraddau pydredd yn uwch ymhlith plant sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig.
Dywedodd Dinah Channing, rheolwr Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae canlyniadau'r treial yn cynnig tystiolaeth bwysig ynglŷn â sut i fynd i'r afael â'r lefelau annerbyniol o bydredd dannedd ymhlith plant difreintiedig.”
Cafodd yr astudiaeth ei chydlynu gan y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, a'i hariannu gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol. Mae wedi'i chyhoeddi yn The Journal of Dental Research.