Dathlu Edward Thomas
13 Ebrill 2017
Can mlynedd ar ôl iddo farw cyn ei adeg, mae un o ffigurau mwyaf dylanwadol byd barddoniaeth, Edward Thomas, yn cael ei ddathlu yng Nghaerdydd, cartref i un o'r archifau mwyaf o waith Thomas.
Bydd Dathlu Edward Thomas 100, a gynhelir gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, yn cofio'r bardd ac awdur fu'n ysbrydoliaeth ar gyfer rhai o feirdd ac awduron rhyddiaith mwyaf blaenllaw'r 20fed ganrif, gan gynnwys R.S. Thomas, Michael Longley a Robert MacFarlane.
Mae Thomas yn ffigur mawr nad yw'n dueddol o gael digon o sylw ym myd barddoniaeth fodern. Ysgrifennodd dim ond 144 o gerddi yn ei fywyd – ac 16 o'r rheini mewn 20 diwrnod yn ystod ei gyfnod mwyaf creadigol yn 1915.
Yn aml, mae ei gerddi yn olrhain teithiau ar droed yn y byd naturiol, ac yn sôn am adar, planhigion, blodau, llynnoedd, a bryniau. Yn wahanol i'r rhai a elwir yn 'feirdd y ffosydd', ysgrifennwyd barddoniaeth Edward Thomas cyn iddo gael ei anfon i Ffrynt y Gorllewin.
Dim ond ei lyfr o farddoniaeth, Six Poems, y byddai Thomas yn ei weld mewn print, ac yn gyntaf cyhoeddodd ei waith dan ffugenw, Edward Eastaway. Cafodd ei ladd gan ffrwydrad siel yn Arras ar ddydd Llun y Pasg yn 2017, ac yntau'n ddim ond 39 oed.
Cynhadledd ryngwladol fawr
Bydd digwyddiad canmlwyddiant ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys cynhadledd ryngwladol fawr, gweithdy ysgrifennu, perfformiad barddoniaeth, a phwt o farddoniaeth bob dydd mewn trydariad.
Bydd arddangosfa gyhoeddus hefyd yn cynnwys eitemau o archif Edward Thomas, casgliad Edward Thomas mwyaf y byd, a gyflwynwyd i'r Brifysgol ryw hanner can mlynedd yn ôl, ac sydd bellach wedi'i storio yn Archif Casgliadau Arbennig y Brifysgol.
Dywedodd trefnydd y gynhadledd, Kate Gramich, Athro Llenyddiaeth Saesneg: “Drwy gydol ei fywyd roedd Edward Thomas yn chwilio am 'gartref', a ddehonglir fel ymdeimlad ffisegol o berthyn yn y byd, ac ymdeimlad o fod yn gyflawn o safbwynt metaffisegol...”
“Rydym yn ffodus iawn o gael prif ysgolheigion Edward Thomas ymhlith ein siaradwyr, gan gynnwys Edna Longley, Lucy Newlyn, Andrew Webb, a Guy Cuthbertson, ynghyd â llwyth o ysgolheigion newydd sy'n darganfod Thomas o'r newydd.”
Cynhelir cynhadledd 100 Edward Thomas (19 – 21 Ebrill) yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Ymhlith y cynadleddwyr o bedwar ban y byd, fydd aelodau o deulu'r bardd.
Mae Dathlu Edward Thomas 100 wedi'i gefnogi gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Llenyddiaeth Cymru.