Myfyriwr o Gaerdydd mewn cystadleuaeth gan Asiantaeth Ofod y DU
13 Ebrill 2017
Mae myfyriwr o Solihull ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill £5,000 mewn cystadleuaeth gan Asiantaeth Ofod y DU i feddwl am syniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio data lloerennau i wella bywyd ar y Ddaear.
Enillodd Chloe Hewitt, 19, wobr am ei syniad arloesol o ddefnyddio data lloerennau i adnabod a mapio adeiladau diwydiannol segur.
Gallai'r syniad alluogi awdurdodau lleol ac eraill i ddefnyddio mwy o safleoedd tir llwyd ar gyfer datblygu a hefyd creu mapiau o ardaloedd sydd 'mewn perygl'.
Ynghyd ag enillwyr eraill y gystadleuaeth, bydd Chloe yn cyflwyno ei syniad i banel o arbenigwyr, neu 'ddreigiau', o'r diwydiant gofod a fydd yn cynnig gwobrau a allai gynnwys mentora, profiad gwaith, a hyd yn oed troi'r syniad yn realiti.
Bydd y rhai â'r syniadau gorau hefyd yn cael gwahoddiad i gyflwyno eu syniad yng Nghynhadledd Ofod y DU – y digwyddiad mwyaf dylanwadol yn y DU ynglŷn â'r gofod – a gynhelir ym Manceinion rhwng 30 Mai a 1 Mehefin, 2017.
Syniadau ysbrydoledig
Dywedodd Chloe, sy'n astudio ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd: “Roedd y gystadleuaeth yn ddiddorol iawn. Penderfynais gymryd rhan oherwydd roeddwn i'n meddwl y byddai dysgu am loerennau'n ddiddorol, ond doeddwn i ddim yn disgwyl ennill. Roedd yn ddiddorol iawn oherwydd rydyn ni'n gwybod bod lloerennau'n bodoli, ond dydyn ni ddim yn sylweddoli faint maen nhw'n ei wneud. Rwy'n bwriadu defnyddio'r arian i dalu am interniaeth dramor, felly rwy'n teimlo'n gyffrous iawn.”
Roedd Her SatelLife yn gystadleuaeth i chwilio am syniadau ysbrydoledig, gan bobl ifanc rhwng 11 a 22 oed, ynglŷn â chysylltu data lloerennau â data gofod a'i ddefnyddio mewn bywyd pob dydd.
Dywedodd Emily Gravestock, Pennaeth y Strategaeth Rhaglenni yn Asiantaeth Ofod y DU: “Roedd yn wych gweld y nifer fawr o syniadau arloesol a gyflwynwyd i Her SatelLife, ac roedd Chloe yn sicr yn haeddu ennill...”
Cafodd y gystadleuaeth, a sefydlwyd i gefnogi datblygiad gwybodaeth, trin data, a sgiliau technolegol, ei rhannu'n tri grŵp oedran, ac roedd gwobrau £5,000 ar gyfer pob categori oedran a £10,000 ar gyfer y prif enillydd.
Roedd panel y beirniaid yn cynnwys arbenigwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr Asiantaeth Ofod y DU, y Catapwlt Rhaglenni Lloerennau yn Harwell, Swydd Rydychen, a byd diwydiant.