Pecynnau monitro cartrefi ar gyfer Merthyr
10 Ebrill 2017
Gallai gosod pecyn monitro syml ein helpu i reoli tymheredd, lleithder a’r defnydd o drydan yn well yn ein cartrefi, gan arwain at fywydau mwy cyfforddus.
Dyma un brif ganfyddiadau prosiect gan Brifysgol Caerdydd a ddatblygwyd i wella dealltwriaeth trigolion Merthyr Tudful o’r ffordd y mae eu cartrefi yn gweithio, a rhoi cyngor iddynt ar fesurau syml y gellir eu gweithredu i wneud eu cartrefi yn fwy cyfforddus ac ynni effeithlon.
Mewn llawer o achosion, fe honnir bod gweithredu technolegau newydd a dulliau cynaliadwy mewn cartrefi yn gallu cynyddu’r defnydd o drydan gan nad ydynt wedi’u dylunio i gymryd arferion a galluoedd technolegol pobl i ystyriaeth.
Roedd tîm y prosiect, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn y Senedd ddydd Mercher (5 Ebrill 2017) i friffio Aelodau'r Cynulliad ac amryw randdeiliaid eraill ar ganlyniadau'r prosiect, a’u hargymhellion ar gyfer cymdeithasau tai.
Rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 2016, aeth y tîm ymchwil ati i ddadansoddi cyfanswm o naw cartref ym Merthyr Tudful, gan gydweithio â Chymdeithas Tai Merthyr Tudful i ddarparu offer monitro syml i helpu’r trigolion i edrych ar yr amodau yn eu cartrefi.
Hygromedrau, mesuryddion thermomedr ac offer monitro ynni clipiadwy
Roedd y dyfeisiau monitro yn cynnwys offer cofnodi data yn ogystal â dyfeisiau gweledol, megis hygromedrau, mesuryddion thermomedr ac offer monitro ynni clipiadwy. Cafodd y rhain eu gosod yng ngheginau, ystafelloedd ymolchi, ystafelloedd byw/bwyta ac ystafelloedd gwely’r trigolion.
Cynhaliwyd cyfweliadau â’r trigolion cyn ac ar ôl gosod y dyfeisiau hyn.
Roedd y canlyniadau yn dangos diffyg cysylltiad rhwng y trigolion ac amgylchedd eu tai. Fodd bynnag, ar ôl defnyddio’r offer monitro, roeddent yn dangos gwell dealltwriaeth o amgylchedd eu tai, ac yn gallu dirnad tymheredd yr aer a’r lleithder cymharol mewn gwahanol rannau o’u cartrefi.
Roeddent hefyd yn gallu adnabod sut oedd rhai arferion dyddiol, fel coginio, cael cawod neu agor ffenestri, yn gallu addasu amgylchedd eu tai. Roedd rhai o’r trigolion hefyd yn gallu adnabod y gwahanol ddyfeisiau yn eu cartrefi a oedd yn defnyddio’r mwyaf o egni.
Gwybodaeth, sgiliau technegol a ffyrdd o fyw pobl
Yn ogystal â gweithredu technolegau cost isel gyda chynllun monitro cynhwysfawr, mae’r ymchwilwyr hefyd yn argymell hyfforddiant parhaus, fel gweithdai a seminarau, er mwyn helpu trigolion i ddeall eu cartrefi yn well.
Maent hefyd yn argymell bod angen i ymyriadau gyda thechnoleg gymryd gwybodaeth, sgiliau technegol a ffyrdd o fyw pobl i ystyriaeth.
Meddai prif awdur yr adroddiad, yr Athro Chris Tweed, Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru: “Yn aml, ni chaiff ymddygiad preswylwyr ei ystyried wrth ddylunio tai neu gynnal ymyriadau. O’r herwydd, nid yw strategaethau i wella amgylchedd tai ac arbed ynni bob amser yn cyflawni’r canlyniadau disgwyliedig...”
“Yma, rydym wedi dangos bod gweithredu technoleg sylfaenol cost isel i edrych ar amodau cartrefi, law yn llaw â chyngor syml, yn gallu arwain at newid arwyddocaol yn ymddygiad trigolion.”