Y Ddadl Ffracio
10 Ebrill 2017
Er bod cefnfor cyfan yn gwahanu'r DU oddi wrth yr Unol Daleithiau, pan fydd cwestiwn ffracio'n codi, mae'r rhaniad mawr - a siarad yn athronyddol - yn culhau'n sylweddol.
Mae pryderon am effeithiau tymor byr a thymor hir drilio llorweddol am ynni siâl yn amlwg yn y ddwy wlad. Yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr a chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r cwestiynau allweddol yn cynnwys y perygl o halogi dŵr yn ogystal â ffafrio ffynonellau ynni adnewyddadwy yn hytrach na thanwydd ffosil i ddiwallu anghenion ynni cyhoeddus.
“Mae hyn - ac ymchwil arall rydym ni wedi'i gynnal - yn dangos bod y cyhoedd yn y ddwy wlad yn amlwg yn dymuno cael symudiad at system ynni glanach, mwy cynaliadwy yn y dyfodol,” dywedodd yr awdur deallusol Nick Pidgeon, athro seicoleg amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Trafodaethau mwy gwybodus
Mae cynhyrchu nwy siâl ac olew yn yr Unol Daleithiau wedi cynyddu'n gyflym dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae gan lywodraeth y DU ddiddordeb yn y datblygiad arfaethedig. Mae deall barn y cyhoedd yn gam cyntaf hanfodol i greu trafodaethau mwy gwybodus am ynni a hyrwyddo gwell penderfyniadau.
Cynhaliodd yr ymchwilwyr gyfres o weithdai trafod undydd wedi'u trefnu'n ofalus gydag amrywiol aelodau o'r cyhoedd mewn pedair dinas: Llundain, Caerdydd, Los Angeles a Santa Barbara. Roedd y trafodaethau manwl hyn yn galluogi'r ymchwilwyr i edrych y tu hwnt i dystiolaeth sy'n bodoli am farn y cyhoedd am hollti hydrolig wedi'i seilio'n bennaf mewn ardaloedd oedd eisoes wedi'u heffeithio.
“Roedd y canlyniadau'n dangos mai'r farn gyffredinol am ddatblygiadau siâl oedd eu bod yn ddatrysiad tymor byr yn arwain at ddibyniaeth ddieisiau ar danwydd ffosil cyfyngedig ar draul datblygu ynni adnewyddadwy,” dywedodd y cydawdur Merryn Thomas, cydymaith ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.
Canfu'r astudiaeth fod y rheini a holwyd yn ystyried bod yr effeithiau posibl yn cael eu dosbarthu'n annheg, gan ddadlau nad oedd y manteision economaidd a chyflogaeth a neilltuir i ddatblygu siâl yn unigryw ac y byddent yn gymwys yn yr un modd i fuddsoddiad ac uwchraddio sylweddol mewn technolegau adnewyddadwy.
Ymddiriedaeth dwfn yn y llywodraeth a sefydliadau
Roedd gwahanol bryderon yn y ddwy wlad yn adlewyrchu modelau gwahanol o lywodraethu diwydiannau echdynnol. Yn yr Unol Daleithiau, roedd rhai cyfranogwyr yn awyddus i gael canllawiau ffederal mwy safonedig ac atebolrwydd tymor hir. Ar y llaw arall, yn y DU, lle ceir rheoleiddio ar lefel genedlaethol yn bennaf, cafwyd galwadau am fwy o reolaeth leol. Beth bynnag y lleoliad, mynegodd y cyfranogwyr ddiffyg ymddiriedaeth dwfn yn y llywodraeth a sefydliadau.
Yng Nghaliffornia, roedd profiadau cyfredol ac yn y gorffennol gyda'r diwydiant olew lleol yn lliniaru pryder rhai pobl am ddatblygiadau siâl yn y dyfodol. Fodd bynnag, i eraill, amlygodd profiadau personol o brinder dŵr a daeargrynfeydd yr ymdeimlad hwn o risg. Yn y DU, lle mae echdynnu olew a nwy ar y tir yn llai cyffredin, tynnodd cyfranogwyr ar brofiadau ymylol o'r diwydiant glo a diwydiannau trwm wrth wneud synnwyr o'r hyn y gallai datblygiadau siâl ei olygu iddyn nhw yn y dyfodol.
“Canfu'r astudiaeth hon lefelau rhyfeddol o uchel o bryder amgylcheddol a chymdeithasol am hollti hydrolig mewn ardaloedd heb unrhyw brofiad uniongyrchol o'r dechnoleg,” dywedodd y cydawdur Barbara Harthorn, cyfarwyddwr CNS ac athro yn Adran Anthropoleg UCSB.
Darparwyd y prif gyllid ar gyfer yr ymchwil hwn gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol gyda chymorth ategol gan raglen ymchwil ac arloesi'r Undeb Ewropeaidd Horizon 2020.
Gan dynnu ar dros ddegawd o ymchwil a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Talaith California Santa Barbara Center for Nanotechnology in Society (UCSB-CNS) yn yr Unol Daleithiau, dyma'r astudiaeth ansoddol, ryngddisgyblaethol, drawsgenedlaethol gyntaf o ganfyddiadau o echdynnu siâl yn y DU a’r Unol Daleithiau. Mae'r canlyniadau i'w gweld yn y cyfnodolyn Nature Energy.