Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education 2017
11 Ebrill 2017
Mae Prifysgol Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Hughes Education (THELMA), sef gwobr fawr ei bri.
Mae wedi ei henwebu yng nghategori 'Menter Cyfnewid/Trosglwyddo Gwybodaeth y Flwyddyn,' sy'n cydnabod y fenter fwyaf arloesol a gwreiddiol ym maes cyfnewid/trosglwyddo gwybodaeth yn ystod blwyddyn academaidd 2015-16.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu System Arloesedd, sy'n gyrru cynhyrchiant a ffyniant drwy fuddsoddi mewn pobl, lleoedd a phartneriaethau.
Mae'n cynnwys cyflogi academyddion rhyngwladol talentog, buddsoddi mewn cyfleusterau modern ar gyfer cydweithio â diwydiannau, datblygu graddau sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant a sefydlu mentrau ffurfiol ar y cyd â phartneriaid allanol.
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: "Rwy'n falch iawn bod y Brifysgol ar y rhestr fer ar gyfer THELMA.
"Rydym eisiau i fanteision ein gwaith ymchwil gael eu rhannu mor eang ag sy'n bosibl..."
"Mae'r enwebiad yn dyst i waith caled ein staff a'n myfyrwyr talentog sy'n troi syniadau gwych yn ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid yn y sector preifat, cyhoeddus ac yn y trydydd sector."
Cyhoeddir yr enillydd mewn seremoni ar 22 Mehefin 2017 yng Ngwesty Grosvenor House, Park Lane, Llundain.