Gwobrau Hyfforddeion BEST
7 Ebrill 2017
Mae Deoniaeth Cymru wedi anrhydeddu meddygon a deintyddion yng Nghymru mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Gwobrwywyd yr enwebeion llwyddiannus am eu rhagoriaeth wrth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol meddygol a deintyddol ledled Cymru.
Mae gwobrau blynyddol BEST/BSAS yn rhan o Wobrau Athro/Athrawes Glinigol y Flwyddyn BMA/BMJ a gynhelir ar y cyd gan Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, Ysgol Meddygaeth Abertawe a Deoniaeth Cymru.
Gofynnwyd i bob meddyg a deintydd sy’n cael eu hyfforddi yng Nghymru i enwebu ymgynghorydd, meddyg teulu, deintydd neu staff a meddyg cyswllt arbenigol oedd wedi perfformio’n rhagorol yn eu tyb hwy.
Y gweithwyr proffesiynol canlynol oedd Hyfforddwyr y Flwyddyn yng ngwobrau BEST 2016: Dr Samantha Wilson, Meddyg Partner a Hyfforddwr ym Meddygfa Ely Bridge, Caerdydd; Dr Mark Taubert, Meddyg Ymgynghorol mewn Gofal Lliniarol yng Nghanolfan Ganser Felindre, Caerdydd; Dr Madhan Mohan Natarajan, Darlithydd mewn Deintyddiaeth Adferol yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd; a Mr Suresh Pandalai, Arbenigwr Cysylltiol mewn Wroleg yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd.
Dywedodd yr Athro Peter Donnelly, Deon Ôl-raddedigion Deoniaeth Cymru: “Mae Deoniaeth Cymru yn arbennig o falch o fod wedi datblygu gwobrau BEST/BSAS i gydnabod y safonau uchel o addysg feddygol a deintyddol yng Nghymru. Unwaith eto, mae’r safonau wedi bod yn rhagorol ac maent yn adlewyrchu amser ac ymrwymiad y meddygon a’r deintyddion sydd ar flaen y gad ym meysydd addysg a hyfforddiant. Mae gwobrau BEST/BSAS yn ddathliad teilwng ar gyfer y rhai sydd wedi’u henwebu gan eu hyfforddeion am yr amser, y gofal a'r ymdrech y maent wedi’u rhoi i’r rôl bob dydd.”
Mae'r gwobrau'n rhan o raglen gwaith helaeth Deoniaeth Cymru i gydnabod a gwobrwyo hyfforddwyr, a'i safbwynt bod ansawdd arferion meddygol a deintyddol a diogelwch cleifion yn dibynnu ar ansawdd yr hyfforddiant a gynigir. Maent hefyd yn cyfrannu at waith y Ddeoniaeth o gydymffurfio â'r gofynion rheoleiddiol (Cyngor Meddygol Cyffredinol) i roi cydnabyddiaeth i hyfforddwyr ym maes gofal eilaidd drwy ddatblygu a chefnogi hyfforddwyr o safon, gan gynnwys Goruchwylwyr Addysgol a Chlinigol.
Cafodd pedwar enillydd y wobr Fwrsari Addysg Feddygol gwerth £3,000 hefyd. Nod strategol Deoniaeth Cymru yw comisiynu, rheoli ansawdd a chefnogi addysg a hyfforddiant ar gyfer hyfforddeion, meddygon ysbytai, meddygon teulu, deintyddion ac ymarferwyr gofal deintyddol yng Nghymru.