Buddsoddi yn nyfodol ein gweithlu gofal iechyd
7 Ebrill 2017
Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi agor cyfleuster addysg newydd sbon fydd yn cynnig ffug theatrau ac ystafelloedd adfer i fyfyrwyr.
Agorwyd Ystafell Efelychu Pen y Fan yn Nhŷ Eastgate ar Heol Casnewydd, ddydd Mercher 5 Ebrill gan Stephen Griffiths o Wasanaeth Gweithlu, Addysg a Datblygu GIG Cymru (WEDS). Y gwasanaeth hwn sydd wedi talu am ddatblygu’r cyfleusterau newydd.
Mae ystafelloedd efelychu realistig fel y rhain yn rhoi amgylchedd dilys, na fydd yn codi ofn, gan gyflwyno’r sgiliau clinigol pwysig fydd eu hangen ar fyfyrwyr pan fyddant yn gweithio yn y maes. Mae’n amgylchedd diogel lle gall myfyrwyr ymarfer a datblygu sgiliau cyffredin a chymhleth. Bydd hefyd yn cynyddu eu hyder fel eu bod yn gwbl barod ar gyfer y gwaith ymarferol.
Yn ogystal â bod o fudd i fyfyrwyr, mae’r cyfleusterau hyfforddi hyn yn cyfrannu at ddiogelwch cleifion. Maent yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn hyderus wrth ddefnyddio’r offer ac felly’n gallu canolbwyntio ar ofal cleifion.
Mae'r cyfleuster yn cynnwys dwy theatr ffug sy'n efelychu’r theatrau a geir mewn ysbytai, yn ogystal â phedair ystafell ymarfer ar gyfer datblygu sgiliau craidd ym meysydd cynnal bywyd, codi a chario, adfer a gofal cymhleth. Yn ogystal ag ymarfer sgiliau a thechnegau craidd, caiff myfyrwyr y profiad i brofi a rheoli sefyllfaoedd realistig gyda chleifion. Mae’r ffug theatrau yn cynnig profiad hollgynhwysfawr sy’n cynnwys synau, arogleuon yn ogystal ag offer. Mae doliau’r cyfleuster efelychu yn elfen ganolog o’r sefyllfaoedd hyn gan eu bod yn galluogi’r myfyrwyr i arsylwi, dysgu am brosesau cymhleth o osod tiwbiau mewn pibellau gwynt yn ogystal â sgiliau personol, fel cyfathrebu â chleifion.
Yn ôl Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Heather Waterman: “Mae'r cyfleusterau newydd hyn yn rhoi’r amgylchedd gorau posibl i alluogi ein myfyrwyr i ddysgu’r sgiliau ymarferol fydd eu hangen arnynt wedi iddyn nhw gymhwyso’n ymarferwyr...”
Meddai Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr WEDS: “Pleser o’r mwyaf oedd cael fy ngwahodd i agor y cyfleusterau newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ffurfiol. Gall cymhlethdod ac arwyddocâd y gwaith a wneir mewn lleoliadau gofal iechyd godi ofn ar fyfyrwyr. Drwy gynnig amgylcheddau sy’n efelychu’r hyn sy’n digwydd mewn ysbytai go iawn, byddwn yn eu galluogi i ddatblygu’n ymarferwyr medrus sy'n gallu rhoi gofal yn hyderus. Gall hyn wneud byd o les i brofiad y cleifion.”
Mae'r cyfleuster hefyd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio’r sgiliau annhechnegol a ‘dynol’ fel cyfathrebu, arwain ac ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd. Mae ymchwil yn awgrymu bod y cyfuniad hwn o sgiliau technegol ac annhechnegol o’r radd flaenaf yn hanfodol i sicrhau diogelwch y cleifion.