Ymchwil arloesol i ganser yr ymennydd
6 Ebrill 2017
Ddydd Mercher 5 Ebrill, fe gynhaliodd Prifysgol Caerdydd ddigwyddiad i arddangos yr ymchwil arloesol a gynhelir yn y Brifysgol i fynd i'r afael â’r mathau mwyaf ymosodol a marwol o ganser yr ymennydd.
Yn rhan o'r digwyddiad, cyflwynodd yr elusen Ymchwil i Diwmorau'r Ymennydd (Brain Tumour Research), gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Mason Thorne, siec o £60,000 i Catio Neto, myfyriwr PhD o Brifysgol Caerdydd. Mae'r arian hwn yn cyfrannu at yr ymchwil ar y cyd rhyngddi hi ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Ragoriaeth Ymchwil i Diwmorau'r Ymennydd yn Portsmouth.
Dywedodd un o'r trefnwyr, yr Athro Mark Gumbleton o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: “Mae cael arian gan elusennau fel Ymchwil Canser Cymru, Ymchwil i Diwmorau'r Ymennydd ac Ymddiriedolaeth Mason Thorne, yn ogystal â Tenovus, CRUK, NC3Rs, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cael effaith wirioneddol ar allu cynyddol Caerdydd i wneud gwaith ymchwil ar diwmorau'r ymennydd. Dyma faes sy’n aml yn cael ei esgeuluso ac mae angen mwy o waith ymchwil ynddo.”
Mae tiwmorau'r ymennydd yn lladd mwy o blant ac oedolion o dan 40 oed nag unrhyw fath arall o ganser. Er hynny, dim ond 1% o arian cenedlaethol ar ymchwil canser sydd wedi'i ddyrannu i ymchwilio i'r clefyd dinistriol hwn.
Tiwmorau ymennydd Glioblastoma Multiforme (GBM) yw'r mathau mwyaf cyffredin o ganser yr ymennydd. Mae'r tiwmorau hyn yn gallu ymosod ar feinwe iach cyfagos. Gall wrthsefyll triniaethau cyffuriau ac ymbelydredd gan olygu ei bod bron amhosibl i'w gwella.
I amlygu pwysigrwydd ymchwil yn y maes hwn yn ogystal ag arddangos gallu cynyddol Prifysgol Caerdydd i ymchwilio i diwmorau'r ymennydd, gwahoddwyd Aelodau Seneddol lleol, Aelodau Cynulliad, cefnogwyr elusennau a newyddiadurwyr i ddigwyddiad yn Adeilad Hadyn Elis ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd pawb y cyfle i glywed am weithgareddau eang ac amrywiol y Brifysgol wrth ymchwilio i diwmorau'r ymennydd. Mae’r gwaith yma’n cynnwys ymchwil o bwys gan Brifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a Chanolfan Ganser Felindre. Trafodwyd pynciau fel gwyddoniaeth labordy trosiadol, niwro-oncoleg clinigol, niwro-patholeg, arferion llawfeddygol a gofal lliniarol a nyrsio.
Cafodd pawb gyfle hefyd i weld rhai o gyfleusterau ymchwil estynedig y Brifysgol, gan gynnwys CUBRIC2 – Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd blaenllaw Prifysgol Caerdydd, Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSIR). Cafwyd y cyfle hefyd i glywed am waith Canolfan Ganser Felindre.