Yr Arglwydd Darzi yn traddodi darlith ‘Cartref Arloesedd’
7 Ebrill 2017
Bydd yr Arglwydd Darzi o Denham yn esbonio mewn darlith gyhoeddus y mis nesaf (3 Mai 2017) y bydd triniaethau sydd wedi eu teilwra i unigolion yn helpu i lunio gofal iechyd yn y dyfodol.
Wrth draddodi ail ddarlith ‘Cartref Arloesedd’ Prifysgol Caerdydd, bydd yr Arglwydd Darzi yn trafod y cyfnod o feddygaeth fanwl a phŵer llwyfannau ymchwil.
Bydd y sgwrs yn cynnwys datblygiadau mewn pŵer cyfrifiadurol, gallu peiriannau i ddysgu, a dadansoddi data systemau technoleg gwybodaeth. Bydd yr Arglwydd Darzi yn dangos sut mae’r rhain wedi cyflymu’r cydgyfeirio rhwng gwyddoniaeth a llawdriniaeth.
Wrth siarad ymlaen llaw am y ddarlith, dywedodd yr Arglwydd Darzi: “Diolch i ddatblygiadau technolegol, rydym yn byw mewn cyfnod sy’n gallu osgoi defnyddio’r un driniaeth ar gyfer pob claf, ac yn lle hynny, cynnig diagnosteg, triniaethau ac ymyriadau iechyd ataliol sydd wedi eu haddasu’n fanwl ar gyfer ein hamrywioldeb ni fel pobl.”
Mae’r Arglwydd Darzi yn dal Cadair Llawfeddygaeth Paul Hamlyn yng Ngholeg Imperial Llundain, Ysbyty Brenhinol Marsden a’r Sefydliad Ymchwil Canser. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr yn Sefydliad Arloesedd Iechyd Byd-eang yng Ngholeg Imperial Llundain. Yn 2002, cafodd ei urddo'n farchog am ei wasanaethau ym myd meddygaeth a llawfeddygaeth ac yn 2007, cafodd ei gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi fel Athro yr Arglwydd Darzi o Denham.
Mae’r sgwrs yn dechrau am 6.30pm yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Ysgol Busnes Caerdydd, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU. I gadw lle, cofrestrwch yma. Cynhelir derbyniad diodydd cyn y sgwrs am 5.30pm.
Mae ymweliad yr Arglwydd Darzi yn nodi ail ddarlith ‘Cartref Arloesedd’ Prifysgol Caerdydd, ac yn dilyn anerchiad agoriadol gan Laura Tenison MBE, sylfaenydd y cwmni blaenllaw ar gyfer mamau a babanod, JoJo Maman Bébé, fis Tachwedd diwethaf.