Rachel Hargest yn ennill Gwobr Silver Scalpel am ragoriaeth mewn hyfforddiant llawfeddygol
6 Ebrill 2017

Mae Cymdeithas y Llawfeddygon mewn Hyfforddiant (ASiT) wedi dyfarnu Gwobr Silver Scalpel 2017 i Rachel Hargest.
Corff proffesiynol annibynnol ac elusen gofrestredig yw ASiT a’i nod yw hyrwyddo’r safonau uchaf ym maes hyfforddiant llawfeddygol.

Cyflwynwyd gwobr fawreddog Silver Scalpel am y tro cyntaf yn 2000 i gydnabod rhagoriaeth mewn hyfforddiant llawfeddygol. Fe’i dyfernir unwaith y flwyddyn i hyfforddwr sydd wedi rhagori ym meysydd arwain, dyfeisgarwch, hyfforddi a datblygu, proffesiynoldeb a chyfathrebu.
Mae Miss Hargest yn uwch-ddarlithydd clinigol mewn Llawdriniaeth y Coluddyn Mawr, ac mae’n aelod o Ymchwil Meddygol Cydweithrediadol Caerdydd Tsieina (CCMRC).
Yn Ysbyty Athrofaol Cymru y mae’n gwneud ei gwaith clinigol yn bennaf, ac yno mae’n hyfforddi llawfeddygon iau ac yn goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn CCMRC. Mae hefyd yn Llywydd Isadran Lawfeddygol y Gymdeithas Meddygaeth Frenhinol, un o ddarparwyr addysg feddygol barhaus mwyaf y DU.

“I am delighted and honoured to receive the Silver Scalpel Award. I would like to thank the trainees who nominated me. It is a pleasure to work with such enthusiastic and committed students and trainees who will be the surgeons of the future in Cardiff and further afield.”
Cewch ragor o wybodaeth yn https://www.asit.org/silver-scalpel-award