Rôl i gwmni BAM yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr
5 Ebrill 2017
Mae cwmni adeiladu blaenllaw BAM wedi'i ddewis i ymgymryd â'r gwaith paratoadol ar gyfer adeilad £50m Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn fuddsoddiad mawr ym mhrofiad myfyrwyr ac yn rhan o’r gwaith mwyaf ers cenhedlaeth i uwchraddio campws y Brifysgol.
Disgwylir i'r gwaith ddechrau nes ymlaen eleni a dylai'r cyfleuster newydd, sy'n bartneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr, fod yn barod erbyn blwyddyn academaidd 2019/20.
Bydd y Ganolfan yn creu canolbwynt ar gyfer ein gwasanaethau cefnogi myfyrwyr yn ogystal â chynnig mannau dysgu cymdeithasol modern, hyblyg a darlithfa 550-sedd gyfoethog ei thechnoleg.
Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn gwneud gwasanaethau cymorth yn fwy hwylus i fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai sy'n astudio y tu hwnt i Barc Cathays.
Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd: “I gynnal ein statws fel un o brifysgolion orau'r wlad, mae'n hanfodol ein bod yn gallu cystadlu â'r sefydliadau gorau ac yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf...”
“Mae'r Ganolfan yn rhan o fuddsoddiad £600m parhaus yn ein campws. Mae hyn yn cynnwys £260 miliwn i ddarparu cyfleusterau heb eu hail i'n myfyrwyr.”
Dywedodd Craig Allen, Cyfarwyddwr Adeiladu BAM: “Mae cael ein penodi ar gyfer y gwaith hwn yn dangos perthynas mor gryf yr ydym wedi'i meithrin gyda Phrifysgol Caerdydd wrth weithio gyda nhw ar adeiladau Hadyn Ellis a CUBRIC (Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd).
“Mae hefyd yn dangos y ffydd sydd ganddynt yn adnoddau BAM i gyflwyno cynllun cymhleth lle rhoddir pwyslais ar ansawdd. Bydd cynnal partneriaethau o safon yn hollbwysig er mwyn gwireddu'r datblygiad cyffrous hwn ar gyfer bywydau myfyrwyr.”
Cynlluniwyd y Ganolfan gan y penseiri arobryn Feilden Clegg Bradley Studios sy'n hen law ar wneud gwaith gwych ar adeiladau cyhoeddus proffil uchel.