GW4 yn lansio uwchgyfrifiadur cyntaf o'i fath yn y byd mewn arddangosfa genedlaethol
30 Mawrth 2017

Mae Cynghrair GW4 wedi dadorchuddio uwchgyfrifiadur ARM cyntaf y byd yn lansiad EPSRC heddiw yn amgueddfa wyddoniaeth Thinktank yn Birmingham.
Cafodd Cynghrair GW4, ynghyd â Cray Inc. a'r Swyddfa Dywydd, £3m gan EPSRC i gyflenwi gwasanaeth cyfrifiadura perfformiad uchel Haen 2 newydd a fydd o fudd i wyddonwyr ledled y DU.
Mae'r uwchgyfrifiadur, a elwir 'Isambard' ar ôl y peiriannydd enwog o Oes Victoria, Isambard Kingdom Brunel, yn galluogi ymchwilwyr i ddewis y system caledwedd orau ar gyfer eu problem wyddonol benodol, gan arbed amser ac arian.

Mae Isambard yn gallu gwneud cymhariaeth systemau ar gyflymder uchel am ei fod yn cynnwys mwy na 10,000 o unedau prosesu 64-did ARM – un o'r peiriannau mwyaf o'i fath unrhywle yn y byd.
Credir y gallai'r uwchgyfrifiadur, sydd eisoes wedi cael canmoliaeth ledled y byd, gynnig templed ar gyfer cenhedlaeth newydd o wasanaethau yn seiliedig ar dechnoleg ARM.
Mae Isambard yn cael ei adeiladu yn ei gartref newydd, y Swyddfa Dywydd, lle bydd yn rhoi cyfle i wyddonwyr hinsawdd weld yn uniongyrchol a oes angen addasu eu modelau tywydd i gyd-fynd â saernïaethau cyfrifiadurol newydd.
Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Deon Ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ac Athro Cyfrifiadura Symudol a Biogymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Bydd y cyfleuster Haen 2 hwn yn galluogi ymchwilwyr i arbrofi â saernïaethau newydd a datblygu dealltwriaeth uniongyrchol o broblemau perfformiad cymhleth..."

“Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer y DU. Mae'r gallu i ddefnyddio uwchgyfrifiaduron ar gyfer y math hwn o waith yn hanfodol i gefnogi strategaeth ddiwydiannol y DU a'n cystadleurwydd ar lefel ryngwladol.”

Dywedodd yr Athro Martyn Guest, Cyfarwyddwr Uwchgyfrifiadura ar gyfer Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r newid presennol mewn saernïaethau cyfrifiadura yn cynnig cyfle cyffrous i fyd gwyddoniaeth – cyfle y gellir ei lywio drwy asesu'r effaith y mae saernïaeth yn ei chael ar berfformiad codau cymhwysiad allweddol..."

"Rydym yn teimlo'n gyffrous iawn ynglŷn â'r syniad o berfformiad a thrwybwn gwell ym maes gwyddoniaeth, ac ynglŷn â chynnig gwasanaeth i'r gymuned sy'n hwyluso datblygiad algorithmau, a throsglwyddo ac optimeiddio codau gwyddonol o feysydd megis cemeg gyfrifiadurol, deunyddiau a pheirianneg."
Meddai'r Athro Nick Talbot, Cadeirydd Bwrdd Cynghrair GW4 a Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Effaith ym Mhrifysgol Caerwysg: "Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda'n partneriaid, Cray Inc a'r Swyddfa Dywydd, ar y prosiect hwn, sydd wedi dangos sut gall ethos cydweithredol ein galluogi i arwain y byd yn y maes hwn..."
"Mae Isambard yn enghraifft o arbenigedd ein rhanbarth mewn peirianneg uwch ac arloesedd digidol, a gobeithio y bydd hyn yn cynnig glasbrint ar gyfer oes newydd o uwchgyfrifiadura ledled y byd."
Sefydlwyd GW4 yn 2013 ac mae'n dod â phedair prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw ynghyd: Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg. Ei nod yw cryfhau'r economi ar draws y rhanbarth drwy gynnal ymchwil arloesol gyda phartneriaid ym myd diwydiant.