Datgelu'r cyfan am sosialwyr arloesol llai amlwg o Gymru
30 Mawrth 2017
Caiff lledaeniad sosialaeth rhwng yr 1880au a'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru eu datgelu mewn llyfr newydd gan academydd o Brifysgol Caerdydd.
Mae Wales and Socialism: Political Culture and National Identity before the Great War yn astudiaeth fawr newydd gan Dr Martin Wright o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. Mae'n datgelu diwylliant gwleidyddol sosialaidd fywiog, sy'n mynd yn ddyfnach na chydnabuwyd yn y gorffennol.
Drwy wneud gwaith ymchwil manwl, mae Dr Wright yn tynnu sylw at rai o'r sosialwyr arloesol llai amlwg o Gymru gan yn edrych ar eu syniadau a'u hunaniaeth. Dyma rai o’r arloeswyr o dan sylw:
Gweinidog yr Annibynwyr, D.D. Walters
Yn ystod ei gyfnod yn weinidog Anghydffurfiol yng Nghastellnewydd Emlyn, bu Walters, a oedd yn wreiddiol o Sgeti, yn hyrwyddo sosialaeth ymysg pysgotwyr Cwrwgl Afon Teifi yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Teithiodd ledled Cymru a thraddodi'r araith O Gaethiwed i Ryddid yn y Gymraeg, a oedd yn dadansoddi hanes y byd ers Gardd Eden o safbwynt sosialaidd.
Y cyn-genedlaetholwr, Robert Jones Derfel
Symudodd Derfel, a oedd yn arfer bod yn genedlaetholwr brwd cyn mynd yn Sosialydd, o Feirionydd lle ganwyd ef, i Fanceinion. Yma, ysgrifennodd nifer o bamffledi ac erthyglau yn y Gymraeg er mwyn troi ei gyd-Gymry yn Sosialwyr. Roedd ymysg y cyntaf o Sosialwyr Cymru i ystyried y berthynas rhwng ei hunaniaeth genedlaethol Gymreig a dyheadau rhyng-genedlaetholaidd y Sosialwyr.
Athro ysgol, David Thomas
Awdur un o'r llyfrau Cymraeg pwysicaf am Sosialaeth, Y Werin a’i Theyrnas. Un o Dalysarn, Sir Gaernarfon, oedd Thomas, ac fe weithiodd i hyrwyddo'r Blaid Lafur annibynnol yng ngogledd Cymru. Roedd yn un o'r ymgyrchwyr sosialaidd mwyaf diwyd a ffyddlon, ac ddechreuodd ymdrech ar ddechrau’r ugeinfed ganrif i roi gwedd Gymreig i sosialaeth.
Dr David Rhys Jones, Meddyg
Yn wreiddiol o ardal wledig Sir Geredigion, ymfudodd David Rhys Jones i Awstralia, cyn dychwelyd i'w famwlad i fod yn feddyg yng Nghaerdydd. Roedd gandddo rôl allweddol wrth sefydlu Cymdeithasau Ffabiaidd yng Nghaerdydd a Llandysul yn y 1890au. Fe hyrwyddodd sosialaeth drwy siarad ar lwyfannau sosialaidd yng Nghaerdydd a chymoedd y de, yn ogystal ag ysgrifennu i'r wasg yng Nghymru.
Cymru a'r byd ehangach
Gan ganolbwyntio ar y ffordd y mae sosialwyr yn ymwneud â hunaniaeth genedlaethol Cymru, mae'r llyfr yn edrych ar sosialaeth fel rhan o gydadwaith ideolegol, gwleidyddol a diwylliannol rhwng Cymru a'r byd ehangach, yn ogystal â rhwng gwahanol ranbarthau yng Nghymru. Wrth i’r Rhyfel Mawr agosáu, roedd cwestiynau o hyd ynghylch hunaniaeth genedlaethol sosialaeth Cymru a Phrydain, gan achosi goblygiadau drwy gydol yr ugeinfed ganrif.
Dywedodd Dr Wright: "Rydym yn byw mewn cyfnod lle mae sosialaeth mewn cyflwr newidiol iawn – er i'r syniad chwarae rôl bwysig wrth greu'r Prydain a gefais fy magu ynddi. Nid yw'n glir sut y gellir newid y syniadau am sosialaeth i'r amgylchiadau sy'n newid yn gyflym rydym yn byw ynddynt...”
“Mae'n dangos sut y cafodd sosialaeth yng Nghymru ei chreu o synthesis unigryw o'r cyffredinol a'r penodol; cafodd ei chreu gan unigolion a oedd wedi bod yn meddwl yn ddwys am eu lle nhw yn y byd, a'u hunaniaeth genedlaethol. Rwy'n awgrymu'n gryf, os yw sosialaeth am fod yn berthnasol i Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'n rhaid i ni barhau i edrych ar ddeialog y gorffennol, ac adeiladu arno. Dyma sydd wrth wraidd y llyfr hwn."