Doves and Hawks
5 Ionawr 2015
Fel rhan o goffâd canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae twf ac effaith mudiadau heddychol a mudiadau a oedd yn gwrthwynebu rhyfel yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu harchwilio yn Doves and Hawks, sef cyfres newydd ar BBC Radio Wales a gyflwynir gan Aled Eirug, sy'n fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gan ddechrau ar ddydd Llun 5 Ionawr 2015, mae'r gyfres hon o dair rhaglen yn datgelu hanes amgen y Rhyfel Mawr yng Nghymru o safbwynt y rhai a oedd yn gwrthwynebu'r Rhyfel. Mae academyddion, gwrthwynebwyr cydwybodol, teuluoedd a gwleidyddion yn siarad yn onest gan dddangos nad un hanes yn unig sydd i'r Rhyfel, a'i fod yn hytrach yn gymysgedd cyfoethog o ddehongliadau gwahanol dros ben o'r modd yr aeth y rhyfel yn ei flaen a'r hyn yr oedd yn ei olygu i'r bobl a fu'n rhan ohono.
"Yn y gyfres hon, rydym yn archwilio'r hyn a ysgogodd rai dynion i wrthwynebu'r rhyfel, wrth i gymaint o'u cydwladwyr ymuno o wirfodd calon," esboniodd yr hanesydd Aled Eirug, sy'n fyfyriwr yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. "Hefyd rydym yn archwilio pam oedd yr awdurdodau'n poeni cymaint am y mudiad yn erbyn rhyfel yn Ne Cymru yn anterth y rhyfel ym 1917," ychwanegodd.
Roedd hanes teuluol personol Aled wedi ennyn ei ddiddordeb gydol oes yn y pwnc, gan arwain at ei radd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd ar wrthwynebiad i'r Rhyfel Mawr yng Nghymru. Esboniodd Aled: "Fel gwrthwynebwr cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd fy nhad-cu, Tom Eirug Davies, yn un o grŵp o 25 o fyfyrwyr yng ngholeg diwinyddol Bala-Bangor a apeliodd yn llwyddiannus i gael eu heithrio o'r Fyddin. Dilynodd fy nhad yr un trywydd ychydig ddegawdau'n ddiweddarach yn ystod yr Ail Ryfel Byd."
Doves and Hawks – rhaglen un [5 Ionawr]
Yn y rhaglen gyntaf, mae Doves and Hawks yn archwilio materion cydwybod, moesoldeb, dynoliaeth a gwladgarwch y byddai gwrthwynebwyr cydwybodol wedi'u hwynebu. Mae athrawiaeth Gristnogol yn gorchymyn, 'Na ladd', felly a ellir fyth cyfiawnhau lladd i atal mwy o erchyllterau?
Pan oedd gweinidogion anghydffurfiol fel John Williams Brynsiencyn yn pregethu mewn gwisg filwrol lawn, a oeddent yn swyddogion recriwtio ym mhob ystyr oni bai am enw? Ac a ddefnyddiodd David Lloyd George ei gefndir anghydffurfiol Cymreig i ddylanwadu'n sinigaidd ar y gweinidogion crefyddol hyn a'u cynulleidfaoedd i ymladd yn yr hyn yr oedd rhai'n ei alw'n 'rhyfel sanctaidd dros rinwedd Cristnogol'? A ellid cael iachawdwriaeth 'drwy aberthu eich bywyd dros eich gwlad'?
Mae'r cyfranwyr yn cynnwys yr awdur a'r bardd Mererid Hopwood, yr academyddion a haneswyr Gethin Evans a Manon Jones, yr Athro Diwinyddiaeth Densil Morgan a'r Darllenydd mewn Diwinyddiaeth Robert Pope.
Doves and Hawks – rhaglen dau [12 Ionawr]
Yng ngeiriau tri Chymro yn wynebu cyfyng-gyngor moesol anferthol, maeDoves and Hawks yn dilyn hanesion dynion a wrthododd godi arfau ar seiliau moesol neu gydwybodol, sef y gwrthwynebwyr cydwybodol, ac mae'n dangos sut y cafodd yr agwedd frwd hon ei throsglwyddo drwy eu plant a'u hwyrion.
Gyda dyfodiad gorfodaeth filwrol, yn y lle cyntaf ar gyfer pob dyn di-briod neu weddw ym Mhrydain rhwng 19 a 41 mlwydd oed, a gafodd ei ymestyn yn fuan i bob dyn rhwng 18 a 51 mlwydd oed, sefydlwyd y No-Conscription Fellowship ganrif yn ôl. Ymgyrchodd yr aelodau'n llwyddiannus i sicrhau 'y cymal cydwybod' yn Neddf Gorfodaeth Filwrol 1916: sef yr hawl i ddynion gael eu heithrio rhag gwasanaeth filwrol.
Mae Donald Saunders o Fae Colwyn, a fu'n wrthwynebwr cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn sôn am y ffordd y cafodd ei dad, a fu'n wrthwynebwr cydwybodol yn y Rhyfel Mawr, ei drin. Cafodd ei arwain i gredu byddai'n wynebu sgwad saethu yn Ffrainc, ond gwrthododd ei dad fynd yn groes i'w gydwybod. Mae ei fab yn rhoi tystiolaeth ynghylch triniaeth ei dad yn y carchar drwy gydol y rhyfel.
Mae Catherine James, sy'n Grynwr sy'n byw yn Nolgellau, yn sôn am y ffordd y bu'n rhaid i'w thad, Jenkin James o Bont-rhyd-y-fen, fynd gerbron cyfres o dribiwnlysoedd a arweiniodd at ei garcharu a llafur caled yng ngharchar Dartmoor. Roedd yn ddyn corfforol fregus, ac roedd yn ddyledus o ddiolchgar i 'Mick the Murderer', y bu'n dysgu mathemateg iddo yn gyfnewid am gymorth gyda'r gwaith llafurus a thorcalonnus o dorri cerrig.
Mae'r awdur llyfrau plant Angharad Tomos yn sôn am y ffordd y bu ei thad-cu, David Tomos, a oedd yn athro ac yn wrthwynebwr cydwybodol yn Nhalysarn ger Caernarfon ac yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur Annibynnol, yn helpu pobl eraill i wynebu eu tribiwnlysoedd eu hunain.
Mae'r cyfranwyr yn cynnwys yr haneswyr Gethin Evans a Rob Philips.
Doves and Hawks – y rhaglen olaf [19 Ionawr]
Ym mis Gorffennaf 1915, aeth 200,000 o lowyr ar streic. Erbyn 1916, roedd adroddiadau cudd-wybodaeth y Swyddfa Gartref yn dangos ymlediad safbwyntiau yn erbyn rhyfel ac agweddau chwyldroadol a gweithgareddau asgell chwith yn Ne Cymru.
Yn y rhaglen olaf, mae Doves and Hawks yn archwilio'r don gyfnewidiol o elyniaeth tuag at y rhyfel ym maes glo De Cymru, gyda chyfraniadau gan gofiannydd y gwrthwynebwr cydwybodol cyntaf i ddod yn AS, ac Ysgrifennydd Cyffredinol presennol Plaid Gomiwnyddol Prydain.
Mae'r rhaglen hon yn gofyn a wnaeth fflamau heddychiaeth yng Nghymru a gafodd eu cynnau ar asgwrn cefn crefydd arwain at gynnydd Marcsiaeth. A pha mor agos a ddaeth Prydain i ddilyn llwybr chwyldro a gyflawnwyd yn llwyddiannus yn Chwyldroadau Rwsia ym 1917?
Mae'r cyfranwyr yn cynnwys yr hanesydd Wayne David AS, sy'n gofiannydd ei ragflaenydd Morgan Jones, a oedd y gwrthwynebwr cydwybodol cyntaf i ddod yn AS, a'r haneswyr David Egan a Robert Griffiths, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Prydain.