Ymgyrch Caerdydd i leihau goryfed mewn pyliau i’w threialu ledled Lloegr
22 Rhagfyr 2014
Mae ymgyrch a ddatblygwyd yng Nghymru sy'n lleihau goryfed mewn pyliau ac anafiadau cysylltiedig ag alcohol am gael ei threialu ledled Lloegr.
Mae'r rhaglen 'Have a Word' yn hyfforddi nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i adnabod cleifion sy'n camddefnyddio alcohol ac ymyrryd gyda chyngor defnyddiol ac effeithiol i fynd i'r afael â'u hymddygiad.
Mae'r ymgyrch "Have a Word" yn ysgogi gweithwyr iechyd proffesiynol i gynnig cyngor ar iechyd ar adegau pan fo cleifion yn fwyaf tebygol o wrando arno.
Arweinir yr ymgyrch gan yr ymchwilydd arobryn, yr Athro Jonathan Shepherd, ac fe'i datblygwyd gan bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Lansiwyd "Have a Word" gan Weinidog Iechyd Cymru, Leslie Griffiths AC, yn 2013 yn dilyn treialon gan Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas Prifysgol Caerdydd a ddangosodd fod cyngor a roddir mewn ffyrdd penodol gan nyrsys, gan fanteisio ar "adegau addysgadwy" mewn bywydau pobl, fel pan fo pwythau'n cael eu tynnu, yn lleihau goryfed mewn pyliau.
Ers hynny, mae tua 7,500 o weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi'u hyfforddi mewn dulliau 'Have a Word' gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Erbyn hyn, mae'r cynllun am gael ei fabwysiadu gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr a'i dreialu ar draws sawl rhanbarth yn Lloegr. Bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn Lloegr yn derbyn hyfforddiant ar ddulliau 'Have a Word'.
Dywedodd yr Athro Jonathan Shepherd, Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas ac Athro Llawdriniaeth ar y Geg, Gên ac ar Wyneb yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae penderfyniad Iechyd Cyhoeddus Lloegr i fabwysiadu 'Have a Word' yn enghraifft arall o Brifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd gydag ymchwil arloesol sydd â'r gallu i newid bywydau.
"Mae'r ymgyrch 'Have a Word' wedi'i seilio ar sgwrs strwythuredig rhwng y claf a'r gweithiwr iechyd proffesiynol, y gwyddys ei bod yn ysgogi cleifion i newid eu hymddygiad o ran yfed. Y nodau yw ysgogi'r claf i adnabod y niwed y mae ei yfed wedi'i achosi, er enghraifft, trin y clwyf; adolygu ei ymddygiad o ran yfed; gosod terfynau yfed i'w hun a gwneud a gweithredu ar benderfyniadau i leihau ei arferion yfed peryglus."
Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gellir priodoli 1,200 o'r derbyniadau i ysbytai yng Nghymru bob wythnos i alcohol.