Cydnabyddiaeth i ymchwil gymdeithasegol sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang
18 Rhagfyr 2014
Mae ansawdd ac effaith eithriadol ymchwil gymdeithaseg Prifysgol Caerdydd wedi'i chydnabod mewn asesiad cenedlaethol sydd wedi graddio'r Brifysgol yn drydedd yn y Deyrnas Unedig yn y maes ymchwil hwn.
Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), a gyhoeddir heddiw (18 Rhagfyr 2014), yn asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig.
Mae'r canlyniadau'n cadarnhau'r ymchwil arloesol, ryngddisgyblaethol a gynhelir yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar fywydau pobl, yn sgil y ffaith yr aseswyd bod 80 y cant o'i hymchwil yn 'eithriadol' am ei heffaith ddiwylliannol, gymdeithasol neu economaidd.
Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae'r Ysgol yn falch bod ei hymchwil gymdeithasegol wedi'i chydnabod yn y modd hwn. Rydym yn arbennig o falch o'n hanes o ran ymchwil a'r ffyrdd y barnwyd bod ein hymchwil yn cael effaith fawr."
Mae effeithiau ei gwaith ymchwil yn cynnwys ymchwil arloesol gan Sefydliad Gwyddor Heddlu'r Prifysgolion (UPSI), sydd wedi'i leoli yn yr Ysgol, sydd wedi gwneud yr heddlu'n fwy effeithiol wrth ddeall ac ymateb i drosedd ac anhrefn. Mae ei waith wedi newid polisi'r Swyddfa Gartref ar gyfer plismona ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws Cymru a Lloegr ac wedi llywio'r strategaeth atal gwrthderfysgaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn ymrwymedig i hybu cymdeithaseg gyhoeddus a pholisi, sy'n cael ei llywio gan gydweithredu ac ymgysylltu allanol helaeth.
Yn y blynyddoedd diweddar, mae diwylliant ymchwil bywiog yr Ysgol wedi parhau i gynyddu. Mae wedi datblygu màs cynaliadwy o fwy na 200 o staff ar draws ystod o ddisgyblaethau, ac wedi denu 236 o grantiau ymchwil gwerth £38 miliwn yn ystod y cyfnod asesu.
Mae'r lefel hon o gyllid yn ategu a chefnogi gweithgareddau cyhoeddi, effaith, ac ymgysylltu llwyddiannus ac amrywiol yr Ysgol.