Ewch i’r prif gynnwys

Lleihau’r defnydd o gwpanau coffi

30 Mawrth 2017

Coffee cup and coffee beans

Gellir defnyddio 50 – 300 miliwn yn llai o gwpanau untro bob blwyddyn yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan y cwmni rhostio coffi blaenllaw, Bewley’s.

Amcangyfrifir y caiff 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, gan greu tua 25,000 tunnell o wastraff.

Fel rhan o’r ymchwil, a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2016 gan Brifysgol Caerdydd ar ran Bewley’s, profwyd amrywiaeth o gamau a allai annog pobl i ddefnyddio cwpanau coffi amldro.

Canfu'r ymchwil fod cymhellion ariannol, opsiynau amldro amgen, a negeseuon clir yn atgoffa cwsmeriaid o effaith amgylcheddol defnyddio cwpanau coffi untro, oll wedi cael effaith uniongyrchol ar ymddygiad defnyddwyr.

Canfu'r astudiaeth fod codi tâl ar gwpanau untro yn cynyddu’r defnydd o gwpanau coffi amldro 3.4%. Roedd negeseuon amgylcheddol mewn caffis yn cynyddu’r defnydd 2.3%, ac roedd argaeledd cwpanau amldro wedi arwain at gynnydd o 2.5%, a dosbarthu cwpanau amldro am ddim wedi arwain at gynnydd pellach o 4.3%.

Wrth drafod y canlyniadau, meddai awdur yr adroddiad, yr Athro Wouter Poortinga o Brifysgol Caerdydd, “Er bod y cynnydd o ganlyniad i gamau unigol yn gymedrol, gwelwyd y newid ymddygiadol mwyaf wrth gyfuno’r mesurau”.

300 miliwn yn llai o gwpanau coffi

A pile of disposable coffee cups

Canfu'r astudiaeth fod dewisiadau amldro amgen rhad ac am ddim, law yn llaw â negeseuon amgylcheddol clir a chodi tâl ar gwpanau untro, wedi cynyddu’r defnydd o gwpanau amldro o 5.1% i 17.4%.

“Mae ein canlyniadau yn dangos, ar gyfartaledd, gellid cynyddu’r defnydd o gwpanau coffi amldro hyd at 12.5% gyda chyfuniad o gamau. Amcangyfrifir bod 2.5 biliwn o gwpanau coffi untro yn cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, ac y gallai’r camau hyn arwain at ddefnyddio hyd at 300 miliwn yn llai ohonynt,” meddai’r Athro Poortinga.

Y canfyddiad mwyaf nodedig oedd, tra bod codi tâl ar gwpanau untro wedi cynyddu’r defnydd o gwpanau coffi amldro, ni chafodd gostyngiad ar gwpanau coffi amldro unrhyw effaith ar y defnydd ohonynt.

Dywedodd yr Athro Poortinga, “Mae arlliw pwysig pan ddaw i gymhellion ariannol...”

“Mae pobl yn llawer mwy sensitif i golledion nag enillion wrth wneud penderfyniadau – felly os ydym ni wir am newid ymddygiad cwsmeriaid, bydd codi tâl ar gwpanau untro yn fwy tebygol o fod yn effeithiol”.

Yr Athro Wouter Poortinga

Fel un o'r busnesau coffi mwyaf yn niwydiant arlwyo’r DU ac Iwerddon, mae Bewley’s wedi bod yn cydweithio â phartneriaid yn y diwydiant ar gynaliadwyedd cwpanau coffi ers peth amser. Meddai Louise Whitaker, Pennaeth Marchnata Bewley’s UK, “Mae llawer iawn o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, ac mae hyrwyddo cwpanau amldro yn rhan o'r ateb”.

Er y gall fod yn anodd dwyn perswâd ar gwsmeriaid i newid y ffordd y maent yn yfed eu cwpan dyddiol o goffi neu de, mae gan gwmnïau gyfrifoldeb i chwarae eu rhan o ran datrys y broblem o wastraffu cwpanau coffi.

Aeth Louise Whitaker o Bewley’s yn ei blaen, “Fel cwmni, rydym yn ymrwymo i weithio gyda’n darparwyr cwpanau a’n cwsmeriaid i ganfod ateb i'r broblem...”

“Mae'r ymchwil yn gam defnyddiol iawn ymlaen o ran gwybod sut orau i lywio pobl tuag at ddod a’u cwpanau eu hunain.”

Louise Whitaker Pennaeth Marchnata Bewley’s UK

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol hon yn unigryw oherwydd ei thraddodiad o gyfuno creadigrwydd â chanolbwyntio ar greu, ei phortffolio ymchwil, calibr ei staff a'i lleoliad unigryw.