Arloesiadau Caerdydd yn ennill Gwobrau MediWales
12 Rhagfyr 2014
Cyflwynwyd y wobr am Gydweithrediad y GIG â Chwmni yng Nghymru i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan am ei waith gyda Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru. Mae'r ganolfan, sy'n un o is-gwmnïau Prifysgol Caerdydd, wedi helpu i ddatblygu arwyneb matres newydd a fyddai'n cydffurfio â gwely proffilio heb gwtogi hyd y fatres, er mwyn osgoi problem briwiau pwyso ar y sodlau.
Enillwyd y Wobr Arloesedd gan Asalus. Derbyniodd y cwmni ei wobr am ddatblygu Ultravision, sef dyfais sy'n clirio'r mwg llawfeddygol a gynhyrchir yn ystod llawdriniaeth twll clo. Sefydlwyd Asalus i fasnacheiddio'r arloesiadau sy'n codi o Sefydliad Therapi Mynediad Minimol Cymru (WIMAT) Prifysgol Caerdydd.
Mae Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru (WWIC) yn cyfuno arbenigedd Prifysgol Caerdydd, y GIG, y sector preifat ac addysg uwch gyda chefnogaeth £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru a'r GIG.
Mae WWIC ac Asalus yn rhan o gasgliad cynyddol o fentrau Prifysgol Caerdydd sydd wedi deillio o brosiectau ymchwil gwreiddiol i wella gofal cleifion a chreu swyddi.
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, y Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae hwn yn gyflawniad eithriadol sy'n cydnabod ein hymrwymiad cynyddol i ddatblygu arloesedd a throsi syniadau sy'n cael effaith go iawn ar economi Cymru. Mae'r llwyddiannau hyn yn ychwanegu at restr gynyddol o gyflawniadau sy'n deillio o'n hymdrech i sicrhau bod Caerdydd yn arwain y ffordd o ran cynhyrchion a phrosesau newydd, gan sbarduno twf a ffyniant ledled Cymru a thu hwnt."
Mae Gwobrau Arloesedd MediWales yn dathlu cyflawniadau cwmnïau gwyddor bywyd, y GIG yng Nghymru, a sefydliadau academaidd sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at iechyd a chyfoeth Cymru.