Nid yw pob plentyn sy'n dioddef o gam-fanteisio rhywiol yn cael eu paratoi (groomed)
29 Mawrth 2017
Mae academydd o Brifysgol Caerdydd yn dadlau yn ei llyfr newydd, nad yw pob plentyn sy'n dioddef o gam-fanteisio rhywiol yn cael eu paratoi mewn perthynas amhriodol, a bod rhai achosion yn cael eu colli oherwydd y duedd gynyddol o gysylltu cam-fanteisio rhywiol â pharatoi.
Yn y cyhoeddiad pwysig hwn, mae Dr Sophie Hallett, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn cynnig golwg newydd ar y rhesymau dros gam-fanteisio ar blant yn rhywiol. Mae'r rhain yn cynnwys gwendidau yn y system lles, a'r problemau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu.
Dywedodd Dr Hallett: “Mae'r duedd gynyddol mewn ymchwil ymarferol, gan y Llywodraeth ac mewn adroddiadau yn y cyfryngau i ddweud bod cam-fanteisio ar blant yn rhywiol yn gyfystyr â pharatoi plant mewn perthynas amhriodol, yn gallu gwneud i bobl feddwl bod y ddau yr un peth.
“Tra bod achosion fel y stori ddiweddar am gam-drin plant ar Coronation Street i'w canmol am dynnu sylw at rai o'r problemau, y gwir yw nad yw pob plentyn sy'n dioddef o gam-fanteisio rhywiol yn cael eu paratoi mewn perthynas amhriodol.”
Exchange, abuse and young people
Yn ei llyfr newydd, Making sense of child sexual exploitation: Exchange, abuse and young people, mae Dr Hallett yn cyflwyno lleisiau'r plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef o gam-fanteisio rhywiol arnynt, sydd prin yn cael eu clywed, yn ogystal â'r gweithwyr proffesiynol sydd wedi gweithio gyda nhw.
Mae hi'n edrych ar sut mae cymdeithas yn ystyried cam-fanteisio ar blant yn rhywiol ar hyn o bryd a sut mae hyn yn effeithio ar yr ymateb i'r broblem.
“Cyfrifoldeb y troseddwr bob amser yw cam-fanteisio ar blant yn rhywiol a'u paratoi,” meddai Dr Hallett.
“Gallant gyfnewid rhyw pan maen nhw'n teimlo bod disgwyl iddynt wneud hynny. Gallant fod yn ymwybodol o'r cam-fanteisio sy'n digwydd iddynt. Gallant gyfnewid rhyw i ddiwallu anghenion, mewn sefyllfaoedd dan orfodaeth a phan nad oes dim dewis ganddynt, ac maen nhw'n gwneud hynny.
“Gall ein systemau gofal cymdeithasol hefyd wneud plant yn agored i ddioddef o gam-fanteisio rhywiol. Gall fod yn anodd iawn i weithwyr proffesiynol rhoi'r math o ofal, sylw ac anwyldeb sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc. Mae diffyg amgylchedd sefydlog yn y cartref, sefyllfaoedd lle nad ydynt yn cael eu clywed neu neb yn gwrando arnynt, diffyg cysylltiad â phobl ac absenoldeb oedolyn parhaol yn eu bywydau, ymysg ffactorau eraill, yn golygu nad yw anghenion ymarferol ac emosiynol y plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu. Wrth gyfuno'r ffactorau hyn â diffyg cymorth neu gydnabyddiaeth o'r problemau, gall plentyn neu berson ifanc geisio wneud yn iawn amdanynt mewn ffyrdd peryglus a niweidiol. Mae'n eironig bod rhai pobl ifanc sy'n cael eu rhoi yn y system gofal cymdeithasol i'w diogelu, yn byw mewn sefyllfa nad yw'n ddiogel o gwbl, fel rydym yn ei wybod o achosion llys sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar. Fel y dywed un o'r bobl ifanc yn y llyfr:
“Nid ar hap y mae hyn yn digwydd, mae'n digwydd oherwydd nad oes neb yn mynd i'r afael â phethau eraill. Nid oes gan bobl y gallu i edrych ar ôl eu hunain ac nid oes cymorth ar gael iddynt am ba bynnag reswm. Maen nhw'n cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd anodd oherwydd hyn, ond os oedd pobl yno i'w helpu yn y lle cyntaf yna ni fyddai hyn yn digwydd.”
“Er mwyn diogelu plant yn well, mae angen i ni fod yn ymwybodol o'r holl broblemau hyn, nid y paratoi yn unig,” ychwanegodd Dr Hallett.
Mae Making sense of child sexual exploitation: Exchange, abuse and young people gan Sophie Hallett wedi ei gyhoeddi gan Policy Press ac ar gael nawr.