Paratoi disgyblion ar gyfer addysg uwch
11 Rhagfyr 2014
Mynychodd cannoedd o fyfyrwyr blwyddyn 11, o bob cwr o dde Cymru, ddigwyddiad yn Stadiwm y Mileniwm yn gynharach yr wythnos hon, i helpu i'w paratoi nhw ar gyfer addysg uwch.
Roedd Diwrnod Ysbrydoliaeth y Brifysgol y Sioe Deithiol Addysg Uwch yn brosiect cydweithredol rhwng y Sioe Deithiol Addysg Uwch - sef prosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd - a Campws Cyntaf.
Dyluniwyd y digwyddiad i helpu disgyblion i wneud dewisiadau gwybodus am brifysgol trwy roi cyngor ac arweiniad ar gyrsiau addysg uwch.
Rhoddwyd cyfle i oddeutu 430 o ddisgyblion holi myfyrwyr o'r ddwy brifysgol am gyrsiau y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddynt, a hefyd ennill gwybodaeth a chyngor perthnasol yn ystod ffair bynciau'r digwyddiad.
Bu cyfle i'r disgyblion gymryd rhan mewn gweithdai bach hefyd, i roi blas iddyn nhw ar sut beth fyddai astudio'r pynciau y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddynt.
Rhoddwyd cyngor a gwybodaeth i fyfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau gradd, gan gynnwys celf a dylunio, chwaraeon, bydwreigiaeth, y gyfraith, busnes, rheoli digwyddiadau a llawer mwy.
Roedd yr ysgolion a oedd yn bresennol yn cynnwys Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Gyfun y Coed Duon, Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gyfun Oakdale.
Fe fynychodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Gatholig Esgob Hedley, Ysgol Gyfun y Barri, Ysgol Uwchradd Casnewydd, Ysgol Gymunedol Cwrt Sart, Bryncelynnog, Ysgol Gyfun St Cenydd a Bryn Hafren, y digwyddiad hefyd.
Dywedodd Dave Roylance, Pennaeth Recriwtio Israddedigion Prifysgol Caerdydd:
"Mae'r digwyddiad hwn yn tanlinellu gwerth a phwysigrwydd prifysgolion yn gweithio gyda'i gilydd i gynnig cymaint o ddewisiadau â phosibl i ddarpar fyfyrwyr, er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniadau gwybodus am gam nesaf, hanfodol eu bywydau.
"Gobeithiwn y bydd cydweithrediadau pellach fel hyn yn fodd o gael myfyrwyr i ystyried mor gynnar â phosibl pa bynciau sydd o ddiddordeb iddyn nhw a pha fath o yrfaoedd y dylen nhw anelu atynt."
Dywedodd Ben Hughes o Brifysgol Metropolitan Caerdydd: "Wrth i gost addysg gynyddu, mae'n bwysig bod pobl ifanc yn cael cymaint o wybodaeth mor gynnar â phosibl cyn gwneud penderfyniad a allai gael effaith enfawr ar eu dyfodol o bosibl.
"Cawsom ymateb gwych gan y disgyblion a oedd yn bresennol a hoffem eu gweld nhw'n cofrestru ar gwrs addysg uwch yn y dyfodol."