Trechu tlodi drwy ddiwylliant
28 Mawrth 2017
Mae digwyddiad arddangos arbennig o weithgareddau diwylliannol a threftadaeth yn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd fel rhan o fenter lleihau tlodi gan Lywodraeth Cymru.
Lansiwyd rhaglen Cyfuno: Trechu Tlodi Trwy Ddiwylliant gan Lywodraeth Cymru yn 2015 er mwyn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion na fyddent fel arfer yn cael y cyfle, i gymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant.
Prosiect ymgysylltu Trawsnewid Cymunedau gan Brifysgol Caerdydd, Cymunedau Iach, Pobl Iachach, oedd yn arwain Ardal Arloesi Caerdydd, gan ychwanegu at y gwaith ymgysylltu diwylliannol a oedd eisoes yn bodoli.
Roedd y prosiect yn gyfle i bartneriaid fel amgueddfeydd a sefydliadau celfyddydol, a chlystyrau Cymunedau'n Gyntaf Llywodraeth Gymru, sy'n cefnogi pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ddod at ei gilydd.
Mae preswylwyr yn yr ardaloedd hynny – gan gynnwys gogledd Merthyr a rhannau o Gaerdydd – wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, hyfforddiant a chyfleoedd creadigol eraill i ennill sgiliau a datblygu eu hyder, ac i feithrin cysylltiadau newydd â chymunedau a sefydliadau diwylliannol eraill.
Yn y digwyddiad arddangos, a gynhelir yn Adeilad Morgannwg yn y Brifysgol ar 28 Mawrth, bydd grŵp o ddynion o Ferthyr Tudful yn cael gwobr am arwain teithiau treftadaeth geogelcio rhwng Merthyr a Chaerdydd.
Mae'r gweithgareddau eraill yn y digwyddiad yn cynnwys prosiect ffilm/ffotograffiaeth am dreftadaeth ddiwylliannol a newid ynni yng Nghymru, prosiect celfyddydau'r stryd gyda phobl ifanc a phobl ddigartref, a phrosiect addysgol sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hybu sgiliau llythrennedd mewn modd hwyl a chreadigol.