Cydnabod partneriaeth arloesedd mewn diwydiant
8 Rhagfyr 2014
Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a GAMA Healthcare wedi derbyn gradd 'ragorol' gan Innovate UK.
Mae GAMA Healthcare yn wneuthurwr blaenllaw cynhyrchion gwrthfacterol ac yn un o'r cyflenwyr mwyaf o gadachau gwlyb gwrthfacterol yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd. Bu'r cwmni'n gweithio gyda'r Athro Jean-Yves Maillard, o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, i wella'i gynhyrchion, creu data'n dangos effeithlonrwydd y rhain a gosod y sylfeini ar gyfer canolfan ymchwil a datblygu yn y cwmni.
Trwy'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, fe wnaeth GAMA gryfhau meysydd allweddol o'r busnes yn ei alluoedd ymchwil a datblygu, gan alluogi'r cwmni i arloesi a pharhau â'r gwaith o ddatblygu cynhyrchion.
Hefyd, enillodd wybodaeth am fethodoleg profi effeithlonrwydd a sut i gynnal treial clinigol, gan hyfforddi staff ar draws nifer o adrannau i ymsefydlu'r galluoedd newydd hyn. Erbyn hyn, gall y cwmni gynnig cyngor a chymorth gwyddonol i'w gwsmeriaid presennol fel gwasanaeth ychwanegol, gan ehangu'r bwlch rhyngddo a'i gystadleuwyr.
Meddai Guy Braverman, Cyfarwyddwr a chyd Sylfaenydd GAMA Healthcare: "Derbyniom gefnogaeth arbennig gan Brifysgol Caerdydd, trwy ehangu ein gwybodaeth ar hyd y broses o ddatblygu'r maes ymchwil hwn a, hefyd, yn ymarferol, trwy ymsefydlu'r galluoedd sy'n ein galluogi ni i barhau i gynhyrchu cynhyrchion arloesol a pharhau'n arweinydd ym marchnad y DU. Trwy weithio gyda Phrifysgol Caerdydd, rydym wedi gallu dod yn rhan annatod o ymchwil arloesol. Rydym wedi datblygu perthynas waith gadarn iawn gyda'r Athro Maillard ac rydym bellach yn cynllunio ffyrdd o barhau i gydweithio."
O safbwynt yr Athro Jean-Yves Maillard, mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn pwysleisio pwysigrwydd ymchwil drosiadol i'w grŵp ymchwil ac i'r Brifysgol. "Mae rhyngweithio gyda diwydiant yn hollbwysig ar gyfer cymhwyso ymchwil er y budd pennaf 'yn y byd go iawn' a chreu arloesiadau sy'n cael effaith – yn y cyd-destun hwn, sicrhau bod y cynnyrch a ddefnyddir fel rhan o gyfundrefn rheoli heintiau mewn lleoliadau gofal iechyd yn gallu gwneud gwahaniaeth a helpu gyda'r broses o reoli heintiau gan bathogenau trafferthus," meddai.
"Mae'r cyfle i droi ymchwil yn ymarfer yn dystiolaeth wirioneddol o allu partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth i wneud gwahaniaeth. Bu ennill profiad i gynllunio a chynnal prawf maes o'r maint hwn yn werthfawr a bydd yn cyfrannu ymhellach at sefydlu ein henw da yn rhyngwladol o ran blaengaredd rheoli heintiau, yn enwedig ym maes defnyddio cynhyrchion cadachau gwrthficrobaidd.Roeddem yn falch iawn bod Innovate UK wedi cydnabod llwyddiant y cydweithio a byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy gydweithio ymhellach," ychwanegodd.
Meddai Paul Thomas, Rheolwr Busnes, Prifysgol Caerdydd: "Llongyfarchiadau i dîm y bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth am gyflawni'r radd 'ragorol' hon. Mae'r prosiect wedi cyflawni llwyddiant anhygoel ac mae'n dangos yr effaith sylweddol y gall prosiect partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth ei chael ar fusnes a'r byd academaidd. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i feithrin a chynnal partneriaethau cydweithredol â busnesau a sefydliadau o bob maint a sector, sy'n seiliedig ar werth ac annog arloesedd ac effaith."
I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, cysylltwch â'r tîm yn ktp@caerdydd.ac.uk neu ewch i wefan y Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth.