Mae Gwyddoniaeth yn Rhyngwladol
27 Mawrth 2017
Gwaith celf gan imiwnolegydd o Brifysgol Caerdydd yn dathlu natur ryngwladol ymchwil
Nid ymdrech unigol gan athrylith yw gwyddoniaeth fel arfer. Yn hytrach, mae’n ymdrech ar y cyd sydd angen llawer o ddwylo a meddyliau i gyd yn gweithio tuag at nod cyffredin. Mae cynhyrchiant ac ansawdd yn gwella'n sylweddol pan mae pobl o gefndiroedd a meddylfryd gwahanol yn dod â galluoedd unigryw i'r tîm ac yn ymdrin â chwestiynau gwyddonol mewn ffyrdd gwahanol. Am y rheswm hwn, mae gwyddoniaeth yn y DU wastad wedi croesawu cyfraniadau gan ymchwilwyr o bob cwr o’r byd.
Film looking at the artwork and those involved
Mae celfwaith tri dimensiwn hynod o wreiddiol gan Dr Simone Twohig, yn dangos natur rhyngwladol ymchwil. Mae’n dangos ffracsiwn bach iawn o'r bobl amrywiol sy'n astudio ac yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r darganfyddiadau rhyfeddol y maent yn eu cynhyrchu.
Rhain yw’r dwylo sy’n cynnal yr ymchwil o’r radd flaenaf, sy’n cyfrannu at gyfoeth ac iechyd y DU.
Roedd pob llaw yn fowld o ddwylo gwyddonwyr unigol a myfyrwyr ôl-raddedig sy'n mynd ati i ymchwilio cwestiynau meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd. Peintiwyd baneri gwlad genedigol yr ymchwilwyr ar y dwylo a’u gosod ar gefndir a ddangosai gynnyrch eu hymchwil, sy’n cwmpasu canser, diabetes, awtoimiwnedd a heintiau.
Mae natur rhyngwladol gwyddoniaeth yn amlwg wrth arsylwi fod gwyddonwyr y DU yn teithio’n eang, gyda 72% o ymchwilwyr y DU yn treulio amser mewn sefydliad y tu allan i’r DU rhwng 1996 a 2012, yn ôl tystiolaeth a gasglwyd gan Gymdeithas Prydain ar gyfer imiwnoleg.
Dengys y ffigurau diweddaraf bod tua 28% o academyddion prifysgolion y DU yn dod o'r tu allan i'r DU; mae’r gymhareb hon o staff rhyngwladol hyd yn oed yn fwy ym maes gwyddorau biofeddygol. Er enghraifft, mae 40% o wyddonwyr Ganolfan Francis Crick yn Llundain, y labordy biolegol mwyaf yn Ewrop a adeiladwyd ar gost o £700 miliwn, yn dod o wledydd Ewropeaidd y tu allan i’r DU.