Academyddion yn dathlu lansiad llyfr
28 Mawrth 2017
Mae cydweithwyr o Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd yn dathlu lansiad llyfr newydd a olygwyd ar y cyd gan staff o’r ddwy ysgol.
Mae Sociolinguistics in Wales, a gyhoeddwyd gan Palgrave, yn cyflwyno ymchwil sosioieithyddol newydd a diweddar am Gymru, ac mae’n cynnwys cyfraniadau ysgolheigaidd gan academyddion sy’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, ymhlith ieithoedd eraill.
Dr Mercedes Durham a Dr Jon Morris, cydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yw cyd-olygyddion y gyfrol newydd hon. Mae Dr Durham yn Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, ac mae ei gwaith yn ymwneud yn bennaf ag amrywiad ieithyddol a newid o fewn amrywiaethau’r iaith Saesneg. Mae Dr Morris yn Ddarlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Ieithyddiaeth ac Ieithyddiaeth Gymhwysol yn Ysgol y Gymraeg. Mae ei waith yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg a chaffael y Gymraeg fel ail iaith.
Mae’r llyfr newydd wedi’i rannu’n dair rhan; mae’r rhan gyntaf yn trin a thrafod yr ymchwil ddiweddaraf i’r Gymraeg, mae’r ail yn canolbwyntio ar yr iaith Saesneg, a’r drydedd yn dwyn y ddwy iaith ynghyd ochr yn ochr ag ieithoedd eraill a siaredir yng Nghymru.
Mae’r gyfrol yn cynnwys cyfraniadau gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae cyfranwyr hefyd o Brifysgol Caergrawnt, Prifysgol Sheffield, Prifysgol y Ffindir, a Phrifysgol Graz yn Awstria.
Mae’r llyfr yn gwerthuso ac yn cymhwyso fframweithiau a methodolegau newydd a ddefnyddir mewn sosioieithyddiaeth yng nghyd-destun y Gymraeg. Mae Dr Durham a Dr Morris yn dadlau bod hyn yn unigryw yn y DU. Maent yn honni bod y cyd-destun unigryw hwn yn cynnig ffyrdd newydd o ystyried ac arsylwi sut mae iaith a’r gymdeithas yn rhyngweithio.
Mae Dr Durham yn esbonio’r cymhelliant dros gynhyrchu’r llyfr newydd: “Mae’r gyfrol yn arddangos ymchwil gyfredol ar ieithoedd Cymru ac yn edrych ar y sefyllfa sosioieithyddol yn y wlad ar hyn o bryd. Er bod eisoes lyfrau sy’n edrych ar y Saesneg neu’r Gymraeg yng Nghymru wrth gwrs, mae llawer ohonynt dros 20 mlwydd oed, ac nid oes un sy’n canolbwyntio ar y ddwy iaith yn yr un ffordd â’n llyfr ni. Felly, rydym yn gobeithio y bydd ein llyfr yn cynnig agwedd newydd.”
Ychwanegodd Dr Jon Morris: “Gyda lwc, bydd y llyfr o fudd i’r rhai sydd â diddordeb mewn sosioieithyddiaeth yn gyffredinol, ac i’r rhai sy’n ymddiddori yn y berthynas rhwng iaith a chymdeithas yng Nghymru yn benodol. Mae Mercedes a finnau yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at y llyfr, ac edrychwn ymlaen at weld ei gyhoeddi.”
Mae sosioieithyddiaeth yn arbenigedd penodol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, ac Ysgol y Gymraeg. Mae’n rhan o addysgu israddedig ac ôl-raddedig ac mae’n thema bwysig mewn ymchwil ryngddisgyblaethol.
Mae ymchwil Dr Mercedes Durham yn cynnwys gwaith ar gaffael cymhwysedd sosioieithyddol, a thafodieithoedd Cymreig ac Albanaidd yn y Saesneg.
Mae ymchwil Dr Jonathan Morris yn canolbwyntio ar agweddau sosioieithyddol ar ddwyieithrwydd a chaffael ail iaith yng nghyd-destun y Gymraeg.
Bydd y llyfr newydd yn cael ei lansio’n swyddogol mewn digwyddiad ddydd Llun 3 Ebrill 2017.