Dirprwy Is-Ganghellor Newydd
24 Mawrth 2017
Penodwyd yr Athro Rudolf Allemann yn Ddirprwy Is-Ganghellor newydd a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
Bydd yr Athro Allemann yn olynu'r Athro Karen Holford drwy gymryd yr awenau yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, a fydd yn dechrau ei swydd newydd fel Rhag Is-Ganghellor ar 3 Ebrill 2017.
Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae'r Athro Allemann wedi bod yn Bennaeth yr Ysgol Cemeg, ac yn Athro Ymchwil Nodedig.
Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Mae'r Athro Allemann yn academydd ag enw da yn rhyngwladol, ac mae wedi gwneud gwaith rhagorol i arwain yr Ysgol Cemeg, a bydd yn dod â'i brofiad helaeth i'r rôl hon…”
Dywedodd yr Athro Allemann: “Rydw i wrth fy modd i gael fy mhenodi'n Ddirprwy Is-Ganghellor ac yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Byddaf yn ychwanegu at y gwaith rhagorol y mae'r Athro Karen Holford wedi'i wneud i sefydlu ac arwain y Coleg dros y 5 mlynedd ddiwethaf... ”
Fel rhan o rôl y Dirprwy Is-Ganghellor, bydd yr Athro Allemann yn gyfrifol am reoli ac arwain Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Bydd hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o bennu strategaeth a chyfeiriad y Coleg, ac o hybu datblygiad dysgu, addysgu a rhagoriaeth ymchwil.
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, bydd yr Athro Allemann hefyd yn dod yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.
Ar ôl cwblhau ei waith PhD ym Mhrifysgol Harvard ac Eidgenössische Technische Hochschule (ETH) yn Zurich, dechreuodd yr Athro Allemann ei yrfa fel ymchwilydd ôl-ddoethurol a Gwyddonydd Staff yn Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Feddygol y Cyngor Ymchwil Feddygol yn Mill Hill ar gyrion Llundain.
Aeth yr Athro Allemann ymlaen i fod yn ddarlithydd ac yn Arweinydd Grŵp Ymchwil yr Adran Cemeg yn ETH yn Zurich.
Yn 1998, symudodd yr Athro Allemann i Brifysgol Birmingham i fod yn Uwch Ddarlithydd Cemeg, cyn dod yn Athro Bioleg Gemegol yn 2001.
Ers 2005, mae'r Athro Allemann wedi bod yn Athro Ymchwil Nodedig yn Ysgol Cemeg y Brifysgol.
Yn ei rôl fel Pennaeth yr Ysgol Cemeg, mae'r Athro Allemann wedi goruchwylio gwaith i ehangu'r Ysgol, newidiadau i gyrsiau cemeg israddedig, a gwaith i ddyblu'r incwm ymchwil a nifer y myfyrwyr yn yr Ysgol.
Yn asesiad diweddaraf y llywodraeth o ymchwil prifysgolion, yr Ysgol Cemeg oedd y 9fed orau yn y DU, a'r 5ed ar gyfer effaith ei hymchwil.
Mae grŵp ymchwil yr Athro Allemann yn defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau cemegol a ffisegol i ateb cwestiynau ynglŷn â phŵer catalytig anhygoel ensymau. Maent yn datblygu ac yn defnyddio dulliau cemegol i ymchwilio i brosesau biolegol a'u rheoli yn y labordy ac mewn celloedd byw. Mae eu gwaith yn dibynnu ar ddull rhyngddisgyblaethol, lle mae cemeg yn gorgyffwrdd â meysydd bioleg, ecoleg gemegol, gwyddoniaeth deunyddiau, meddygaeth a ffiseg.