Tryloywder llysoedd teulu
23 Mawrth 2017
Mae ymchwil newydd gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn awgrymu nad yw'r arweiniad a roddir i farnwyr i gyhoeddi dyfarniadau fel mater o drefn yn cael eu dilyn. Felly, nid oes gan y cyhoedd ddealltwriaeth lawn o'r system cyfiawnder teuluol yng Nghymru a Lloegr.
Cyhoeddwyd yr arweiniad yn 2014 mewn ymateb i ganfyddiad y cyhoedd, a'r cyfryngau yn benodol, o 'gyfrinachedd' a 'chyfiawnder y tu ôl i ddrysau caeëdig' wrth ddod i benderfyniadau pwysig ynghylch plant mewn llysoedd teulu. Mae'r canfyddiadau hyn yn deillio o'r ffordd y mae rheolau'r llys yn mynnu bod y rhan fwyaf o achosion teuluoedd yn cael eu cynnal yn breifat. Y nod yw diogelu plant a phobl eraill sy'n agored i niwed, ac mae cyfyngiadau ar y modd yr adroddir arnynt er mwyn atal plant a phobl o'r fath rhag cael eu hadnabod.
Mae'r arweiniad yn mynnu bod y barnwyr yn anfon fersiynau cwbl ddienw o'u dyfarniadau mewn achosion penodol i BAILI, gwefan ymchwil gyfreithiol sy'n agored i bawb. Y bwriad oedd galluogi'r wasg a'r cyhoedd i ddealltwriaeth y system cyfiawnder teuluol yn well, drwy ei gwneud yn fwy tryloyw.
Fodd bynnag, cynhaliodd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd werthusiad wedi'i ariannu gan Sefydliad Nuffield o effaith yr arweiniad. Roedd hyn yn dilyn pryderon a fynegwyd am fethu â diogelu anhysbysrwydd y rhai oedd yn rhan o'r achosion a'r peryglon o'u hadnabod.
Drwy ddadansoddi 837 o ddyfarniadau a gyhoeddwyd yn ystod y ddwy flynedd gyntaf ar ôl cyhoeddi'r arweiniad, daeth i'r amlwg yn yr ymchwil mai dim ond 27 farnwyr a 12 llys a anfonodd mwy na 10 achos yr un i BAILII yn ystod y cyfnod hwn, gan ddangos bod y modd y cedwir at y canllawiau yn amrywio'n fawr yn lleol. O ganlyniad i hynny, mae'r cyfryngau a'r cyhoedd yn gallu darllen mwy am benderfyniadau barnwrol ac am waith cymdeithasol mewn rhai ardaloedd yn fwy na'i gilydd yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd Dr Julie Doughty, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr ymchwil: “Mae'r dyfarniadau a gyhoeddir ar hyn o bryd yn rhoi mwy o wybodaeth nag oedd ar gael yn flaenorol am rôl y llysoedd teulu. Fodd bynnag, mae ymateb y llysoedd wedi bod yn anghyson ac mae hynny'n gallu creu darlun dryslyd ac anghyflawn o'r system yn ei chyfanrwydd.”
Aeth y tîm ymchwil ati hefyd i gael barn rhai barnwyr, newyddiadurwyr a grwpiau cynrychiadol sydd â diddordeb mewn cyfiawnder teuluol ynglŷn â sut mae'r canllawiau wedi'u rhoi ar waith a'u heffaith arnyn nhw a dealltwriaeth y cyhoedd o lysoedd teulu.
Mae'r amseriad ar gyfer cyhoeddi'r adroddiad hwn yn addas o ystyried bod uwch-farnwr llys teulu wedi sôn yn ddiweddar am bwysigrwydd addysgu'r cyhoedd am y gyfraith. Fe soniodd hefyd am wneud prosesau'r llysoedd yn fwy tryloyw er mwyn lleihau cymhlethdod a'r amser yng nghamau olaf achosion, yn ogystal â gwella mynediad at gyfiawnder.
Mae'r adroddiad Transparency through publication of family court judgements: An evaluation of the responses to, and effects of, judicial guidance on publishing family court judgements involving children and young people’, gan Julie Doughty, Alice Twaite a Paul Magrath, ar gael yn llawn yma.