Sbotolau ar Wyliau Cerddoriaeth
17 Mawrth 2017
![Crowd at festival](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/659909/Crowd-at-Festival.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae miliynau o bobl yn mynd i gannoedd o wyliau cerddoriaeth bob blwyddyn ledled y DU, gan gynnwys Glastonbury, Green Man, a T in the Park. Ond beth yw cyfrinach gŵyl gerddoriaeth dda?
Mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd bydd unigolion blaenllaw ym myd gwyliau cerddoriaeth ac academyddion o'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol yn ystyried natur gwyliau cerddoriaeth a'u heffaith.
Cynhelir Sbotolau ar Wyliau Cerddoriaeth ar 27 Mawrth 2017, a bydd yn cynnwys siaradwyr fel Jon Drape (Gŵyl Rhif 6), Steve Muggeridge (Green Gathering) a Gwilym Evans (Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru).
Drwy ystyried cyflwr presennol y diwydiant a'r heriau ar gyfer y dyfodol, bydd siaradwyr yn mynd i'r afael â'r effaith y mae'r twf yn nifer y gwyliau'n ei chael ar ddiwylliant, economi ac amgylchedd Prydain, ac yn ystyried materion megis sut i wella effeithiau cadarnhaol y digwyddiadau, a lleihau eu heffeithiau negyddol.
Dywedodd Cadeirydd Grŵp Ymchwil Gwyliau Prifysgol Caerdydd, Dr Jacqui Mulville, o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: “Mae gan Gymru sîn gerddoriaeth lewyrchus, a nifer o wyliau cerddorol sydd wedi ennill gwobrau...”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/77855/Jacqui_Mullville_08.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Y llynedd, gweithiodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ag un o'r rhain, Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd, i ddarganfod mwy am y cynulleidfaoedd, perfformwyr a diwylliant y digwyddiad trefol blynyddol hwn.”
“Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos ein canfyddiadau, yn annog cyfranogwyr i rannu syniadau ac i ystyried y posibilrwydd o gydweithio yn y dyfodol.
“Mae gwyliau cerddoriaeth yn rhan allweddol o ddiwylliant ac economi gwledydd Prydain. Mae nifer y bobl sy'n mynd i wyliau cerddoriaeth yn cynyddu, ac maent o natur ddynamig ac amrywiol, boed hynny mewn cyd-destunau trefol neu wledig...”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/77855/Jacqui_Mullville_08.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Bydd ymchwil gydweithredol dan arweiniad Prifysgol Caerdydd sy'n canolbwyntio ar elfennau allweddol gwyliau cerddoriaeth, gan gynnwys teithio a bwyd, perfformwyr a phlismona, digwyddiadau hanesyddol a ffantasïau dyfodolaidd, yn ein galluogi i sicrhau bod pwysigrwydd y digwyddiadau mawr hyn yn cael ei gofnodi a'u bod yn parhau i lwyddo.”
Cynhelir Sbotolau ar Wyliau Cerddorol ddydd Llun 27 Mawrth yn Adeilad Morgannwg y Brifysgol (14.00 – 17.00, Ystafelloedd Pwyllgor 1 a 2). Mae'n rhaid cadw lle ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.
Mae Grŵp y Brifysgol sy’n Ymchwilio i Wyliau yn cynnwys staff o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Ysgol Busnes Caerdydd, yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.