Te a Gwin: Diddordeb ar y Cyd
17 Mawrth 2017
Mae pobl yn y DU wedi mwynhau yfed te a gwin ers tro, er bod y rhain yn dod o ddwy wlad wahanol.
Ym mis Mawrth, roedd Sefydliad Confucius wrth ei fodd i groesawu grŵp o arbenigwyr o Brifysgol Zhejiang yn Tsieina, Amgueddfa Te Genedlaethol Tsieina, a Phrifysgol Southampton, a ddaeth i Gaerdydd i rannu eu brwdfrydedd dros y diodydd poblogaidd hyn.
Cafodd Myfyrwyr o'r Ysgol Ieithoedd Modern, Ieithoedd i Bawb, a rhaglenni Choices gyflwyniad manwl i ddiwylliant te Tsieina gan Dr Ping Chen o Brifysgol Zhejiang. Rhoddodd Dr Chen drosolwg o'r chwe gwahanol fath o de yn Tsieina, a'r manteision iechyd sy'n gysylltiedig ag yfed te. Yna, rhoddodd Zhuzhen Zhu, Dirprwy Gyfarwyddwr Amgueddfa Te Genedlaethol Tsieina, drosolwg hynod ddiddorol o de a nwyddau te drwy'r oesoedd. I gloi'r noswaith, cynhaliwyd seremoni de fanwl, a roddodd gyfle i'r gynulleidfa werthfawrogi'r grefft brydferth o greu te.
Y diwrnod canlynol, cafodd y grŵp o Tsieina gyfle i gydweithio â Phrifysgol Southampton mewn sesiwn arloesol i ddangos sut mae te o Tsieina a gwin o Ffrainc wedi datblygu is-ddiwylliannau penodol yn genedlaethol. Er eu bod yn hanu o wahanol wledydd a diwylliannau, mae gan win o Ffrainc a the o Tsieina hanes tebyg yn y modd y cânt eu tyfu, ac o ran defodau. Mae'r ddau ohonynt yn symbolau o letygarwch, rhialtwch, a ffordd o fyw, a chafodd hyn ei werthfawrogi gan bawb fu'n bresennol.
Hoffai Sefydliad Confucius ddiolch i'r Ysgol Ieithoedd Modern; Dr Ping Chen o Brifysgol Zhejiang yn Tsieina; Ms Zhuzhen Zhu, Ms Wenjin Zhou, Ms Xiaojing Luo, Ms Dan Zhao a Mr Bin Zhou o Amgueddfa Te Genedlaethol Tsieina; a'r Athro Marion Demossier a Clelia Viecelli o Brifysgol Southampton.
Cewch ragor o wybodaeth am Sefydliad Confucius a'r digwyddiadau a gynhelir ganddynt ar eu gwefan.