Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw
17 Mawrth 2017
Cafodd myfyrwyr Safon Uwch o bob rhan o Gymru a siroedd y gororau gyfle i ganfod yr atebion i'r cwestiynau hyn a llawer mwy yn nigwyddiad Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd blynyddol y Brifysgol.
Ymgasglodd 800 o bobl ifanc a 49 o athrawon o 51 o ysgolion ar Gampws Parc y Mynydd Bychan ar gyfer Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw.
'Camu i Fyny i'r Brifysgol'
Bwriad y digwyddiad, sydd bellach yn ei 23ain flwyddyn, yw rhoi dealltwriaeth i ddisgyblion o'r wyddoniaeth y tu ôl i feddygaeth, gan ddangos iddyn nhw'n ymarferol y dewis o opsiynau gyrfa sydd ar agor iddyn nhw ym meysydd gofal iechyd, biofeddygaeth a gwyddoniaeth. Caiff ymdrechion sylweddol eu gwneud i sicrhau bod myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar gynllun ehangu mynediad y Brifysgol 'Camu i Fyny i'r Brifysgol' yn gallu bod yn bresennol.

Dywedodd Nia Cwyfan Hughes, myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd a ddaeth i Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd cyn cofrestru yn y Brifysgol: “Roedd rhaglen Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn gyfle a agorodd fy llygaid, a chefais brofi'r gwahanol opsiynau a gyrfaoedd, ar wahân i fod yn feddyg, sydd ar gael mewn meddygaeth…”
“Cyn dod i'r digwyddiad, roedd fy ngwybodaeth am feddygaeth yn ymwneud yn llwyr â swyddi'r staff llinell flaen, y meddygon a'r nyrsys. Drwy Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw cefais olwg ar faes ymchwil meddygol a gweld labordai gwaith a chael profiadau a sgiliau gwerthfawr na fyddai wedi bod ar gael i fi fel arall.”
“O ganlyniad i Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw, dychwelais i yn yr haf i gymryd rhan yn y cynllun profiad gwaith labordy SIH a gydlynwyd gan Dr James Matthews ac yn dilyn hynny penderfynais ymgeisio am feddygaeth a biocemeg. Rwyf i ar hyn o bryd yn astudio biocemeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar flwyddyn lleoliad ym maes imiwnoleg yn labordy'r Athro Paul Morgan.”
Ychwanegodd Kit Lam, sy'n fyfyriwr israddedig yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Drwy Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw cefais ddealltwriaeth ymarferol o'r modd mae agweddau sylfaenol o wyddoniaeth yn darparu sylfaen i feddygaeth a'r gymdeithas ehangach...”
“Yn ogystal â chyflawni fy nod o astudio meddygaeth, rwyf i hefyd ers hynny wedi ymgymryd ag amrywiol brosiectau ymchwil, BSc intercalaidd mewn Seicoleg a Meddygaeth a chefais weithio yng Nghanolfan Ymchwil newydd yr Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n arwain y byd. Yn ystod y digwyddiad Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd cefais gyfarfod a phobl fel Dr James Matthews a Dr Keith Hart sydd wedi dylanwadu ar fy ngyrfa o'r diwrnod hwnnw.”

Gwyddoniaeth, cerddoriaeth a meddygaeth
Bu'r myfyrwyr ar deithiau labordy, cawson nhw brofi arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfres o sgyrsiau ar amrywiol bynciau llosg mewn meddygaeth. Hefyd buon nhw'n gwylio perfformiad Gwyddoniaeth Sain, yn dangos y cyswllt rhwng gwyddoniaeth, cerddoriaeth a meddygaeth.
Trefnir Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw gan bwyllgor Dealltwriaeth y Cyhoedd o Wyddoniaeth ym maes Iechyd (PUSH) y Brifysgol. Dywedodd Dr James Matthews o’r Ysgol Meddygaeth a chyd-gadeirydd PUSH: “Hyd y gwyddom ni, does dim digwyddiad tebyg yn y DU ag iddo gwmpas a graddfa gymharol...”

“Mae'r sylwadau cadarnhaol gan fyfyrwyr ac athrawon yn y digwyddiad yn dangos ein bod ni'n mynd ffordd bell at ddiwallu'r nodau hynny ac yn adlewyrchu ymdrechion enfawr nifer fawr o unigolion brwdfrydig.”
Ychwanegodd yr Athro Anthony Campbell, o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Cymru: “Ein nod yw cyffroi pobl ifanc am wyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n cael effaith wirioneddol ar ymchwil meddygol ac ymarfer clinigol...”

“Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i ganiatáu i ddisgyblion ddarganfod sut mae amrywiaeth ryfeddol o wyddoniaeth sylfaenol, a ddatblygwyd yma yng Nghaerdydd, wedi arwain at ddarganfyddiadau am y ffyrdd y caiff clefydau eu hachosi a sut mae hyn yn cael ei ddefnyddio i ddod o hyd i ffyrdd newydd i'w hatal, neu ddatblygu triniaethau newydd.”
Mae Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw yn cynnwys dros 130 o staff a myfyrwyr ar bob lefel, o ôl-raddedigion i Athrawon, yn cynrychioli'r Ysgolion Meddygaeth, Fferylliaeth, Gofal Iechyd, Deintyddiaeth ac Optometreg.