Hwb i goncrid sy'n trwsio ei hun
16 Mawrth 2017
Mae ymchwil sy'n torri tir newydd ym maes concrid sy'n trwsio ei hun wedi cael dros £4 miliwn o arian newydd i ganfod ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â chostau cynyddol cynnal a chadw ledled y DU.
Mae prosiect RM4L a arweinir gan Brifysgol Caerdydd wedi cael yr arian gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) a chaiff ei ddefnyddio i ddatblygu deunyddiau clyfar sy'n gallu canfod difrod dros eu hunain a'i drwsio, heb gymorth pobl.
Ar yr un diwrnod â'r cyhoeddiad, ymwelodd Jo Johnson, y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesedd, â'r Brifysgol yn rhan o ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Bapur Gwyrdd y Strategaeth Ddiwydiannol.
Nod prosiect RM4L yw helpu cwmnïau ymgorffori technolegau hunanwellhaol mewn systemau awtomatig sy'n gallu trwsio concrid mewn ardaloedd trefol.
Dywedodd y Gweinidog Gwyddoniaeth, Jo Johnson: “Mae prosiect RM4L yn enghraifft wych o ddefnyddio ymchwil i ganfod atebion a gwella dulliau gweithio...”
Ar hyn o bryd, caiff biliynau o bunnoedd eu gwario bob blwyddyn yn cynnal a chadw, atgyweirio ac adfer strwythurau fel pontydd, adeiladau, twneli a ffyrdd.
Amcangyfrifir bod tua £40 biliwn y flwyddyn yn cael ei wario yn y DU ar atgyweirio a chynnal a chadw strwythurau, a'r rhan fwyaf o'r strwythurau hyn wedi'u gwneud o goncrit.
Bydd RM4L yn cael ei arwain gan ymchwilwyr yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caergrawnt, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Bradford, yn ogystal â phartneriaid diwydiannol.
#Bydd RM4L yn adeiladu ar lwyddiant ei ragflaenydd, prosiect 'Deunyddiau Am Oes' (M4L) a gynhaliodd y treialon cyntaf yn y DU gyda choncrid oedd yn trwsio'i hun y llynedd. Defnyddiwyd deunyddiau fel polymerau sy'n cofio siapiau, meicrogapsiwlau a rhwydweithiau llif oedd yn cynnwys asiantau sy'n seiliedig ar fwynau a bacteria sy'n ffurfio calsit.
Dywedodd yr Athro Bob Lark, Prif Ymchwilydd y prosiect o'r Ysgol Peirianneg: “Dyma gyfle gwych i ddatblygu canfyddiadau cyffrous M4L i wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar yr ystod lawn o ddifrod cymhleth a achosir i ddeunyddiau adeiladu a'r atebion iddynt...”
Dywedodd yr Athro Philip Nelson, Prif Weithredwr EPSRC: "Gallai RM4L chwyldroi'r ffordd y mae ein hisadeiledd yn ymdopi â thraul tymor hir yn ogystal â lleihau costau yn sylweddol.
“At hynny, yn rhan o gefnogaeth barhaus EPSRC ar gyfer ymchwil sy'n arwain y byd yn y maes hanfodol hwn, bydd uwchraddio isadeiledd yn sicrhau bod y DU yn parhau'n genedl ffyniannus a chryf.”