Myfyrio ar 'flwyddyn gofiadwy'
16 Mawrth 2017
Mae ein llwyddiannau a'n cerrig milltir y llynedd wedi eu cyhoeddi heddiw (16 Mawrth 2017) yn yr Adolygiad Blynyddol.
Mae’r Adolygiad yn trin a thrafod cynnydd yng nghyd-destun strategaeth Y Ffordd Ymlaen,y Brifysgol, ac fe’i cyflwynwyd yng nghyfarfod blynyddol y Llys gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan.
Dywedodd yr Athro Riordan: “Roedd 2016 yn flwyddyn hynod bwysig, nid yn unig i Brifysgol Caerdydd, ond yn hanes y wlad hon... ”
Er gwaethaf digwyddiadau gwleidyddol cythryblus 2016, mae'r Adolygiad yn nodi llwyddiannau sylweddol y Brifysgol, gan gynnwys:
- Ei Mawrhydi'r Frenhines yn agor Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), a gostiodd £44 miliwn.
- Arwyddo ein hail gytundeb strategol rhyngwladol sylweddol, gyda Phrifysgol Xiamen.
- Cymeradwyaeth i'r Campws Arloesedd a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr – y gwaith mwyaf ers cenhedlaeth i uwchraddio ein campws
- Yr Ysgol Cemeg yn ennill teitl anrhydeddus Athro Regius – y tro cyntaf i brifysgol yng Nghymru gael y dyfarniad
- Tîm o arbenigwyr yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn dyst i "ddechrau gwirioneddol" seryddiaeth tonnau disgyrchol yn eu gwaith
- Rhoi pecynnau trawma sy'n achub bywydau i drin dioddefwyr gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd mewn gwledydd datblygol drwy Brosiect Phoenix.
Darllenwch yr Adolygiad Blynyddol yn llawn yma.
Mae Llys y Brifysgol yn cwrdd bob blwyddyn i gael Datganiadau Ariannol y Brifysgol a'r Adolygiad Blynyddol.
Eleni, clywodd y Llys hefyd y bydd yr Athro Syr Martin Evans, enillydd gwobr Nobel a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol, yn ymddiswyddo fel Canghellor Prifysgol Caerdydd, ar ôl wyth mlynedd yn y swydd.