Brwydr Salamis: trobwynt yng ngwareiddiad y Gorllewin?
16 Mawrth 2017
![In Our Time](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/654669/InOurTime.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Hanesydd o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â rhaglen In Our Time i drafod y frwydr hynafol rhwng hen wlad Groeg a Phersia
Bydd Athro Hanes yr Henfyd, Lloyd Llewelyn Jones, yn ymuno â phanel nodedig ar gyfres eiconig Radio Four i drafod adeg tyngedfennol yn hanes y ddynoliaeth.
Cyn Brwydr Salamis yn 480BC, roeddy Persiaid wedi bod yn llwyddiannus ym mrwydrau Thermopylae ac Artemisium, Boetia ac Attica yn rhan o'u hail ymosodiad ar Wlad Groeg.
![300 Rise of an Empire](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/655269/300-Rise-of-an-Empire.jpg?w=575&ar=16:9)
Gellid dadlau mai dyma un o'r brwydrau mwyaf arwyddocaol yn hanes y ddynoliaeth. Byddai'r frwydr forol yn dod yn drobwynt wrth i gynghrair diffygiol o wladwriaethau dinasoedd Gwlad Groeg gael y gorau ar Brenin Xerxes o'r diwedd.
Wrth i'r llynges ddiffygiol dynnu'n ôl a symud i Ynys Salamis gerllaw, dechreuodd y Groegiaid baratoi i amddiffyn Isthmus Corinth. Mewn ymyriad allweddol i amddiffyn y Peloponnese, llwyddodd y gwleidydd a'r milwr o Athens, Thermistocles, ddwyn perswâd ar y cynghreiriaid i ymladd yn erbyn y tresbaswyr unwaith eto, gan gamarwain a thwyllo'r gelyn.
A hwythau bellach yn gwybod eu bod ar y droed flaen, dechreuodd llynges Persia rwyfo i Gulfor Salamis, gan obeithio rhwystro'r ddwy fynedfa at y Culfor. Fodd bynnag, cawson nhw eu rhwystro gan yr amodau cyfyng. Wrth i gychod Persia geisio symud, ffurfiwyd llynges gan y Groegiaid mewn llinell ac ennill y dydd.
Ymhen blwyddyn, rhoddodd frwydr Plataea a Mycale (479BC) ddiwedd ar unrhyw ymgais gan y Persiaid i goncro tir mawr Gwlad Groeg unwaith ac am byth. Er bod y brwydrau hanesyddol hyn wedi cael sylw haeddiannol mewn hanes, parhau mae'r trafod ynglŷn â sut y gallai canlyniad gwahanol i Frwydr Salamis fod wedi newid cwrs hanes.
Ychwanegodd yr Athro Llewellyn Jones: "Mewn sawl ffordd, roedd yr ymgyrch yng Ngwlad Groeg yn llwyddiant i Xerxes. Llwyddodd yn ei nod i ysbeilio Athen a threchu'r Atheniaid. Ac eto, er nad oedd llwyddiant byddin y Persiaid yn Salamis wedi peri gormod o bryder i'r Ymerodraeth Bersiaidd a barhaodd i ffynnu am 150 mlynedd wedi hynny, ni ellir gwadu ei fod yn drobwynt o ran sut oedd y Groegiaid yn gweld eu hunain, ac yn fan cychwyn i'r ideoleg Groegaidd o ryddid."
Mae'r Athro Lloyd Llewelyn Jones yn ymuno mewn sgwrs â'r cyflwynydd Melvyn Bragg, â Dr Lindsay Allen (Coleg y Brenin, Llundain) a'r Athro Paul Cartledge (Caergrawnt).
Mae'r Athro Llewellyn-Jones yn un o gylch bach a dethol sy'n arbenigo mewn Iran cyn-Islamaidd. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn hanes a diwylliant hynafol Persia, hynafiaeth rhyngweithio rhwng y dwyrain a'r gorllewin, a'r Dwyrain Agos hynafol. Mae ei lyfrau diweddar yn cynnwys King and Court in Ancient Persia 559-331 a Ctesias' History of Persia: Tales of the Orient.
Bydd Brwydr Salamis yn cael sylw ar raglen In Our Time, BBC Radio Four ar 23 Mawrth (09:00, a chaiff ei hailadrodd am 21:00).