Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithwyr o Corea yn canmol yr Ysgol

16 Mawrth 2017

Ein Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion.
Ein Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion.

Mae Ysgol Busnes Prifysgol Corea (KUBS) wedi rhestru Ysgol Busnes Caerdydd ymhlith y 100 ysgol orau yn y byd.

Mae Rhestr Ymchwil Busnes y Byd Ysgol Busnes Prifysgol Corea, sydd bellach yn ei hail flwyddyn, wedi rhoi Ysgol Busnes Caerdydd yn safle 86.

Yn ôl KUBS, lluniwyd y rhestr "yn seiliedig ar ddetholiad o 86 o gyfnodolion nodedig yn y disgyblaethau academaidd canlynol: Cyfrifeg a Chyllid, Rheolaeth, Systemau Rheoli Gwybodaeth, Marchnata, Rheoli Gweithrediadau a Gwyddoniaeth Gweithrediadau, a Strategaeth a Busnes Rhyngwladol." Cafodd y canlyniadau eu paratoi a'u rhyddhau gan y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Busnes a Dadansoddeg Ymchwil (BRAC). Maen nhw'n cynnwys Rhestr Fyd-eang, Rhestr yn ôl Maes Academaidd a Rhestr yn ôl Cyfnodolion.

Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: "Diolch i'n cydweithwyr yn Ysgol Busnes Prifysgol Corea yn Seoul am gydnabod ansawdd ac effaith rhyngwladol ein hymchwil. Rydym yn defnyddio'r ymchwil yma yn uniongyrchol wrth addysgu.

"Mae gennym gymuned gwirioneddol ryngwladol o academyddion, myfyrwyr a phartneriaid. Mae datblygu a gwella cysylltiadau gyda phartneriaid byd-eang mewn meysydd fel addysgu, ymchwil ac ymgysylltu yn bwysig iawn i ni. Rydym yn edrych ymlaen at weithio yn y dyfodol gyda chydweithwyr a darpar fyfyrwyr yng Nghorea."

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn elwa o berthnasau cydweithio gydag amryw o sefydliadau rhyngwladol yn Addysg Uwch. Yn eu plith mae: Prifysgol Xiamen; Prifysgol Cornell; Ysgol Busnes Melbourne; a Phrifysgol Leuven (KU Leuven).

Mae'r Ysgol wedi bod yn yr uchelfannau mewn nifer o restrau byd-eang diweddar, gan gynnwys cael eu rhestru ymhlith y 100 uchaf yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc (ar gyfer Busnes a Rheolaeth a Chyfrifeg a Chyllid). Llynedd, roedd yr Ysgol ymhlith y 100 uchaf yn y byd am Fusnes ac Economeg ar restr Prifysgolion Gorau'r Byd Times Higher Education (THE) yn ôl pwnc 2016-2017 (safle 93). Yn ogystal, mae llwyddiant yr Ysgol o ran ei hymchwil yn cael ei gydnabod. Roedd yr Ysgol yn y chweched safle (allan o 101 o ysgolion busnes y DU) am ansawdd ei hymchwil, ac yn gyntaf am ei hamgylchedd ymchwil yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Mae hefyd yn un o ddwy ysgol yn unig sydd wedi bod yn y 10 uchaf ym mhob ymarfer ymchwil y Llywodraeth ers 1992.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un o ysgolion busnes a rheoli blaengar y byd, sy’n canolbwyntio’n ddwys ar ymchwil a rheoli, gydag enw da am ragoriaeth i greu gwelliannau economaidd a chymdeithasol.