Ymhlith goreuon y byd
16 Mawrth 2017
Ddydd Mercher, 8 Mawrth 2017, cyhoeddwyd bod Ysgol Busnes Caerdydd ymhlith y 100 uchaf ar y rhestr ryngwladol ddiweddaraf o brifysgolion yn ôl pwnc.
Eleni, mae Busnes a Rheolaeth yn y band 51-100 ar Restr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl pwnc, ac mae Cyfrifeg a Chyllid wedi llwyddo i aros yn yr un band.
Bellach yn eu seithfed flwyddyn, Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc yw’r canllaw diffiniol am ansawdd pynciau mewn prifysgolion ar draws y byd. Caiff y rhestr ei llunio trwy werthuso 4,438 o brifysgolion ledled y byd ac archwilio cyfanswm o ryw 1,117 o sefydliadau. Dadansoddir cyfanswm o dros 127m o gyfeiriadau mewn dyfyniadau a 18,900 o raglenni.
Yn dilyn llwyddiant diweddar yr Ysgol, dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: "Mae'n braf iawn bod Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl pwnc yn cydnabod datblygiad ac ansawdd cyffredinol ein darpariaeth.
"Mae angen dathlu bod Busnes a Rheolaeth a Chyfrifeg a Chyllid ymhlith y 100 uchaf, ond nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau am eiliad. Rydym yn ymrwymo i wella'n barhaus, ac yn falch o gael ein hystyried i fod ymhlith darparwyr gorau'r byd. Rydym yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod ein 3,000 o fyfyrwyr yn fodlon yn academaidd, yn cael eu herio yn eu hastudiaethau ac yn barod i gyfrannu'n sylweddol at gymdeithas a maes busnes.
Mae hyn yn unol â'n huchelgais i chwyldroi addysg busnes a rheolaeth yn y DU, drwy ein strategaeth flaengar i roi Gwerth Cyhoeddus. Mae hyn yn golygu ein bod yn defnyddio ein hadnoddau ac yn gweithredu er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mawr rydym yn eu hwynebu. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr ein bod yn ysgogi gwelliannau cymdeithasol ac economaidd."
Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd hanes hir o lwyddiant. Llynedd, dyfarnwyd yr Ysgol ymysg y 100 uchaf yn y byd am Fusnes ac Economeg ar restr Prifysgolion Gorau'r Byd Times Higher Education (THE) yn ôl pwnc 2016-2017 (safle 93). Yn ogystal, mae’r Ysgol wedi cael cydnabyddiaeth am lwyddiant ei hymchwil. Dyfarnwyd bod yr Ysgol yn y chweched safle (ymhlith 101 o ysgolion busnes y DU) am ansawdd ei hymchwil ac yn gyntaf am ei hamgylchedd ymchwil yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Mae hefyd yn un o ddwy ysgol yn unig sydd wedi bod yn y 10 uchaf ym mhob ymarfer ymchwil y Llywodraeth ers 1992.