Pam mae pobl yn talu am boen?
14 Mawrth 2017
Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd, Ysgol Busnes Kedge a Phrifysgol Dechnolegol Nanyang, gall heriau antur eithafol a phoenus helpu gweithwyr swyddfa ddelio ag effeithiau bod ar eu heistedd drwy'r amser.
Gan ganolbwyntio ar her antur Tough Mudder, aeth tîm o ymchwilwyr ati i geisio deall pam mae pobl yn talu am brofiad sy'n cael ei farchnata'n fwriadol fel rhywbeth poenus.
Mae gofyn i bawb sy'n gwneud ras Tough Mudder redeg drwy lawer o fwd, neidio i ddyfroedd rhewllyd a chropian drwy 10,000 folt o wifrau trydan. Mae pobl wedi dioddef anafiadau fel difrod i'r asgwrn cefn, strôc, trawiad ar y galon, a hyd yn oed marwolaeth. Er hyn, erbyn 2016, roedd dros 2.5 miliwn o bobl wedi penderfynu ymgymryd â'r her.
Dywedodd Dr Rebecca Scott, Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd: "Ar un llaw mae pobl yn gwario biliynau o ddoleri bob blwyddyn ar bethau sy'n lleddfu poen, tra bod profiadau poenus a llafurus fel rasys rhwystr a marathonau eithafol yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Sut mae esbonio hynny? Dyna ddiben yr ymchwil hon."
Fe wnaeth y tîm ddarganfod bod poen yn gallu helpu unigolion i ddelio â'r segurdod corfforol o weithio mewn swyddfa. Mae'n gorfodi'r corff i ganolbwyntio'n ddwys ac yn rhoi cyfle i bawb sy'n cymryd rhan ailddarganfod natur eu corff, gan eu bod nhw'n treulio llawer o'u hamser o flaen cyfrifiadur.
Yn ogystal, mae poen yn ffordd o ddianc. Mae poen yn rhoi rhyddhad dros dro o feichiau hunanymwybyddiaeth.
Yn ôl yr Athro Cynorthwyol Julien Cayla, o Ysgol Busnes Nanyang, "I unigolion sy'n teimlo bod gweithio mewn swyddfa fodern wedi achosi i'w cyrff beidio â gweithio mor dda, gall rasys rhwystr a gweithgareddau bach dwys a phoenus eraill wneud iddynt deimlo'n well yn eu cyrff."
Ychwanegodd yr Athro Bernard Cova o Ysgol Busnes Kedge: "Gall siociau trydan a dŵr rhewllyd fod yn boenus, ond maen nhw hefyd yn rhoi'r teimlad i bobl eu bod yn dianc rhag gofynion a phryderon bywyd modern. Wrth adael marciau a chlwyfau, mae profiadau poenus yn ein helpu i greu stori o fywyd llawn cyfleoedd o weld pa mor bell y gellir gwthio'r corff."
Mae'r erthygl Selling Pain to the Saturated Self wedi ei chyhoeddi yn The Journal of Consumer Research. Mae ar gael i'w darllen yma.