Rownd derfynol Cystadleuaeth Big Bang
13 Mawrth 2017
Ar ôl gweithio gyda gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn datblygu ymchwil arloesol, mae disgyblion chweched dosbarth o dde Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol i wyddonwyr ifanc.
Ar ôl cael eu dewis ar gynllun Lleoliadau Ymchwil Sefydliad Nuffield, bu'r disgyblion yn gweithio gydag academyddion o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd a'r Ysgol Meddygaeth dros chwe wythnos yn ystod haf 2016.
Bu tri disgybl o Ysgol Gyfun Ystalyfera, Ysgol Uwchradd Cwm-brân a Choleg Gwent yn edrych ar esblygiad tirlithriadau yn dilyn gweithgaredd seismig yn Tsieina. Roedd hyn dan oruchwyliaeth Tristan Hales a Rob Parker o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd. Bu disgybl arall o Ysgol Uwchradd Cathays yn gweithio gyda Tim Bowen, Kate Simpson a Lucy Newbury o Uned Ymchwil Arennol Cymru yn yr Ysgol Meddygaeth er mwyn esbonio'r mecanweithiau moleciwlaidd sy'n achosi clefyd diabetig yr arennau.
O ganlyniad i'w gwaith, mae'r pedwar wedi eu dewis fel cystadleuwyr yn rownd derfynol Big Bang UK Young Scientists & Engineers Competition.
Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod llwyddiannau pobl ifanc ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg peirianneg a mathemateg (STEM), ac yn eu gwobrwyo am hyn. Mae'n rhoi'r cyfle iddynt gynyddu eu sgiliau a'u hyder wrth wneud gwaith prosiect.
Mae'r gystadleuaeth ar agor i bobl ifanc 11-18 oed, ac yn rhoi cyfleoedd iddynt gystadlu am wobrau arbennig fel profiadau rhyngwladol gwerth dros £50,000 yn ogystal â gwobrau mawr eu bri fel Gwyddonydd Ifanc y DU a Pheiriannydd Ifanc y Flwyddyn y DU.
Yn 2016, fe groesawodd y Brifysgol 37 o ddisgyblion Blwyddyn 12 drwy gynllun Lleoliadau Ymchwil Sefydliad Nuffield.
Mae'r Cynllun Lleoliadau yn cael ei reoli yng Nghymru gan Techniquest gyda chymorth Prosiect Partneriaethau Ysgolion y Brifysgol. Mae'r prosiect hwn yn helpu ymchwilwyr i ymgysylltu â disgyblion ysgolion a'u cyflwyno i ymchwil gyfoes ac ysbrydoledig er mwyn ehangu'r cwricwlwm.
Cynhelir rownd derfynol Big Bang UK rhwng 14-16 Mawrth 2017 yn y NEC ym Mirmingham.