Academydd yn gweithio ar gynllun twf yng Ngroeg
10 Mawrth 2017
![Portrait photo of Kevin Morgan](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/89494/Kevin-Morgan.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae'r athro Kevin Morgan wedi cael gwahoddiad personol gan Weinidog yr Economi a Datblygu yng Ngroeg i helpu'r wlad i lunio strategaeth twf newydd.
Bydd yn ymuno â'r Cyngor Datblygu Gwyddonol newydd, sy'n cynnwys 11 o aelodau, er mwyn datblygu cynllun i gryfhau twf yng Ngroeg dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'r UE a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn disgwyl y bydd economi Groeg yn ehangu 2.7% eleni, yn dilyn cyfradd twf o 0.3% y llynedd.
Dywedodd yr Athro Morgan, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, fod y gwahoddiad i gyfrannu at gynllun twf newydd y wlad gan Weinidog yr Economi a Datblygu, Dimitri Papadimitriou, yn fraint fawr.
Cynhelir cyfarfod cyntaf y Cyngor Datblygu Gwyddonol yn Athen, dydd Gwener 10 Mawrth.