Y Brifysgol Arloesedd II
13 Mawrth 2017
Cynghorydd gweinidogol i draddodi’r brif ddarlith am glystyrau arbenigedd.
Sut gall cymdeithas fanteisio’n llawn ar ymchwil? Dyma’r cwestiwn y mae Prifysgol Caerdydd a sefydliad arloesedd Nesta am geisio ei ateb mewn dau ddigwyddiad sy’n trin a thrafod ffyrdd newydd o weithio.
Yn rhan o gyfres flynyddol, bydd Y Brifysgol Arloesedd II, yn dod ag arbenigwyr o’r sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector ynghyd i ystyried syniadau newydd a hyrwyddo cydweithio.
Bydd Stian Westlake, Cynghorydd Polisi i Jo Johnson AS, Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesedd, yn traddodi darlith gyhoeddus ar 21 Mawrth. Bydd yn edrych ar glystyrau arloesedd – y rhwydweithiau rhanbarthol o arbenigedd sy'n annog ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr i rannu syniadau a chydweithio effeithiol.
Dywedodd Stian Westlake: “Mae arloesedd yn dibynnu ar y mannau anhygoel hynny lle mae syniadau, dawn a medr yn dod ynghyd..."
Cynhelir symposiwm ar 22 Mawrth yn Adeilad Hadyn Ellis y Brifysgol. Bydd y sesiynau yn canolbwyntio ar
- sut y gall polisïau feithrin arloesedd
- sut y gall gweithio ar draws disgyblaethau academaidd gynyddu effaith ymchwil
- ffyrdd o feithrin arloesedd drwy ddulliau ‘labordy’ newydd.
Dywedodd Geoff Mulgan, Prif Weithredwr Nesta: "Yn ogystal â syniadau newydd, mae prifysgolion yn cynnig lleoedd lle gellir cynnal arbrofion am sut caiff gwybodaeth ei chreu a’i rhannu. Gall hyn fod drwy gyrsiau ar-lein agored enfawr (MOOCs), labordai, mannau i wneuthurwr neu ganolfannau newydd sy’n seiliedig ar ddisgyblaethau sy'n dod i'r amlwg. Mae diddordeb gennym mewn mapio beth y gallen nhw fod yn ei wneud, yn ogystal â’r hyn y dylen nhw ei wneud, i gael cymaint o effaith â phosibl ar yr economi a’r gymdeithas o’u cwmpas."
Dywedodd yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter: "Mae prifysgolion yn ganolfannau dysgu a chreu gwybodaeth, ond anaml maen nhw’n myfyrio ar y prosesau a’r systemau a ddefnyddir ganddynt i wneud eu gwaith...”
Mae Y Brifysgol Arloesedd II yn rhan o bartneriaeth barhaus rhwng y Brifysgol a Nesta ac mae’n cynnwys datblygiad Y Lab a SPARK, Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd. Mae SPARK yn gysyniad a grëwyd gyda Nesta a bydd yn gartref i academyddion ochr yn ochr â’r sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector er mwyn dylunio a threialu atebion i broblemau cymdeithasol.
Gallwch gofrestru ar gyfer darlith Stian ar wefan y Brifysgol.