Pobl y tu allan i'r DU yn 'fwy eco-gyfeillgar'
8 Mawrth 2017
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mae pobl o wledydd eraill yn fwy eco-gyfeillgar ac yn fwy tebygol o gredu bod newid hinsawdd yn broblem na phobl yn y DU.
Tra bod y Brifysgol yn dathlu llwyddiant ei hymchwil Ewropeaidd a Rhyngwladol, mae'r Athro Lorraine Whitmarsh wedi cyhoeddi canlyniadau cynnar yr astudiaeth fanwl gyntaf o ymddygiadau amgylcheddol mewn gwledydd sy'n amrywio'n fawr o ran eu diwylliant.
Mae ei hymchwil yn awgrymu bod pobl y DU o'r farn bod camau syml fel diffodd y goleuadau o fudd i'r amgylchedd. Er hyn, nid ydynt yn barod i newid eu hymddygiad mewn ffordd mwy heriol, ond a allai gael mwy o effaith.
Cafodd Ymchwil yr Athro Whitmarsh €1.5m (£1.3m) gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd fel rhan o raglen ymchwil ac arloesedd FP7 yr UE, er mwyn ymchwilio i sut mae ymddygiad ecogyfeillgar yn datblygu.
Rhaglen Ymchwil ac Arloesedd fwyaf yr EU
Mae hi hefyd yn rhan o astudiaeth ryngwladol arall sy'n edrych ar effeithlonrwydd ynni domestig, ar ôl llwyddo i ennill hanner canfed grant Prifysgol Caerdydd gan Horizon 2020, y rhaglen ymchwil ac arloesedd mwyaf erioed yn yr UE, ac olynydd FP7.
Bydd yr Athro Whitmarsh, o'r Ysgol Seicoleg, yn dangos ymchwil y Brifysgol ar y cyd ag Ewrop a gwledydd Rhyngwladol mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd, 9 Mawrth.
Mae ei hymchwil ar ymddygiad amgylcheddol yn ystyried a yw dechrau gweithgareddau gwyrdd newydd fel ailgylchu yn medru arwain at gymryd camau cadarnhaol eraill sy'n dda i'r amgylchedd, fel ailddefnyddio bagiau siopa.
Dyma rai o'r canlyniadau cynnar:
- Mae pobl o wahanol ddiwylliannau yn credu eu bod yn fwy gwyrdd nag ydynt mewn gwirionedd.
- Yn ôl pob golwg, mae pobl yn y DU yn poeni llai am yr amgylchedd ac yn gwneud llai i fynd i'r afael â hyn nag mewn gwledydd eraill.
- Tra bod y rhan fwyaf o bobl yn credu bod newid hinsawdd yn broblem, mae mwyfwy o bobl yn y DU yn amau hyn yn ôl pob golwg.
- Mae pobl yn ymddwyn mewn ffyrdd anghyson.
- Mae tebygrwydd a gwahaniaethau trawiadol rhwng gwledydd.
- Hyd yma, mae'n ymddangos fel bod yr ymddygiad hwn sydd wedi deillio o arferion eraill yn gymhleth ac yn gymharol anghyffredin.
Dywedodd yr Athro Whitmarsh: "Mae'r dadansoddiad yn awgrymu bod y sampl o bobl o'r DU yn fwy tebygol o feddwl am gynhesu byd-eang yn nhermau'r amgylchedd, tra bod gwledydd eraill, fel India yn ystyried yr effeithiau lleol sy'n deillio o hyn, fel llygredd."
"Er gwaethaf hyn, mae'n ymddangos mai'r bobl o blith sampl y DU sydd leiaf tebygol o gredu bod cynhesu byd-eang yn broblem, a phoeni amdano..."
Mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn rhoi gwell dealltwriaeth i lywodraethau, sefydliadau anllywodraethol a'r diwydiant o'r materion sy'n dylanwadu ar ymddygiad sy'n effeithio ar yr amgylchedd ar draws gwahanol ddiwylliannau. Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd o gymorth wrth ddylunio ymgyrchoedd a pholisïau amgylcheddol mwy effeithiol.
"Dim ond newidiadau bach i'w ffordd o fyw y mae'r rhan fwyaf o bobl yn barod i'w gwneud. Oherwydd hyn mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o annog ymddygiad gwyrdd sy'n gallu cyfateb i her newid hinsawdd," meddai'r Athro Whitmarsh.
Cynhelir digwyddiad sy'n dangos llwyddiant ymchwil ar y cyd rhwng y Brifysgol ag Ewrop a gwledydd Rhyngwladol yn Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maendy, rhwng 12:00 a 17:00 ar 9 Mawrth. Bydd Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Julie James yn y digwyddiad.
“Newyddion gwych i’r Brifysgol, Cymru, a’n heconomi ehangach”
Hyd yma mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi cael nawdd o £24.5m o gronfa Horizon 2020. Mae hyn wedi cynnwys astudiaethau ar ddaeargrynfeydd, penderfyniadau dynol, tonnau disgyrchiant, ynni adnewyddadwy a llwch cosmig.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae'n bleser gennyf allu dathlu hanner canfed grant Prifysgol Caerdydd o Horizon 2020, rhaglen Ymchwil ac Arloesedd fwyaf yr EU..."
"Mae'n hanfodol ein bod ni'n dal i ymgeisio am arian o'r UE i wneud ymchwil tra bod y DU yn parhau i fod yn aelod llawn o'r UE. Mae angen i ni hefyd fanteisio ar bob cyfle arall i wneud ymchwil ar y cyd heddiw ac yn y dyfodol."
Ychwanegodd y Gweinidog: "Am wlad mor fach, mae Cymru eisoes yn cynhyrchu mwy na’i chyfran o ymchwil ryngwladol o bwys. Os ydym am barhau i ddatblygu ein harbenigedd sylweddol yn y maes hwn, rhaid i ni gydweithio’n fwy nag erioed a manteisio ar bob cyfle i gael cefnogaeth a buddsoddiad rhyngwladol..."