Cefnogaeth i’r newid yn yr hinsawdd yn Ewrop
8 Mawrth 2017
Mae’r dadansoddiad cyntaf a mwyaf manwl o farn am newid hinsawdd yn rhai o wledydd mwyaf Ewrop wedi dangos bod y mwyafrif llethol yn credu bod y newid yn yr hinsawdd yn digwydd.
Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw (8 Mawrth), yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn y pedair gwlad lle cynhaliwyd yr arolwg – y DU, Ffrainc, yr Almaen ac Norwy – hefyd yn cefnogi amrywiaeth o wahanol fesurau i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Roedd yr arolwg o dros 4,000 o aelodau o'r cyhoedd mewn gwledydd sy’n ganolog i’r polisi ar yr hinsawdd, yn edrych ar farn pobl am y newid yn yr hinsawdd, polisi’r hinsawdd ac opsiynau ynni yn y dyfodol.
Cafodd yr arolwg ei gydlynu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ar y cyd â Phrifysgol Stuttgart yn yr Almaen, Sefydliad Symlog yn Ffrainc, Prifysgol Bergen a Chanolfan Rokkan yn Norwy, ac Allgymorth yr Hinsawdd (Climate Outreach) yn y DU.
Bod consensws gwyddonol cryf ar y newid yn yr hinsawdd
Dangosodd y canlyniadau fod y mwyafrif (dros 80% ym mhob un o’r pedair gwlad) yn credu bod hinsawdd y byd yn newid, ac mae cyfran debyg yn meddwl bod hyn yn cael ei achosi, o leiaf yn rhannol, gan weithgarwch dynol.
Mae ychydig o dan ddwy ran o dair (60%) yn credu ein bod eisoes yn teimlo effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ac mae ymatebwyr yr arolwg yn cysylltu’r prif effeithiau â’r ffordd y mae’r tywydd yn cael ei amharu yn eu gwlad, megis mwy o stormydd a llifogydd, tywydd anwadal, a chyfnodau mwy poeth neu sych.
Canrannau lleiafrifol yn unig (24% yn yr Almaen, 30% yn y DU, 33% yn Ffrainc, a 35% yn Norwy) sy’n credu bod consensws gwyddonol cryf ar y newid yn yr hinsawdd.
Mae mwyafrifoedd ym mhob un o’r pedair gwlad o blaid defnyddio arian cyhoeddus i baratoi nawr ar gyfer effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, ac i helpu gwledydd sy'n datblygu i ymdopi â thywydd eithafol, tra mae mwyafrifoedd o fwy na 70% ym mhob un o’r gwledydd yn cefnogi defnyddio arian cyhoeddus i roi cymhorthdal i ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Am y tro cyntaf holodd yr arolwg am farn Ewropeaid am awgrymiadau a glywyd yn ystod 2016 fod cysylltiad posibl rhwng y newid yn yr hinsawdd a mudo ffoaduriaid.
Roedd mwyafrif clir ym mhob un o’r pedair gwlad yn gwrthod mai’r newid yn yr hinsawdd yw un o’r prif achosion pam mae nifer uchel o ffoaduriaid yn dod i Ewrop; fodd bynnag, roedd 30% (yn y DU), 37% (Ffrainc), 39% (yr Almaen) a 57% (yn Norwy) yn credu y bydd y newid yn yr hinsawdd yn arwain at fwy o ymfudo i’w gwlad yn y dyfodol.
Yn ôl yr Athro Nick Pidgeon o’r Ysgol Seicoleg a arweiniodd y prosiect: "Mae'n galondid gweld bod y rhan fwyaf o’r bobl yn yr astudiaeth fawr iawn hon yn cydnabod bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd, a bod y gefnogaeth i'r angen am fynd i'r afael â hynny yn parhau i fod yn uchel ymysg y rhai a holwyd. Yn wir, niferoedd isel yn unig ym mhob un o’r pedair gwlad oedd yn amau bod y newid yn yr hinsawdd yn digwydd..."