Newyddiaduraeth yn cael ei graddio ymhlith “goreuon y byd”
8 Mawrth 2017
Mae Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn swyddogol ymhlith y gorau yn y byd yn ôl y rhestr ddiweddaraf o brifysgolion gorau’r byd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 8 Mawrth, 2017).
Bellach yn eu seithfed flwyddyn, Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwncyw’r canllaw diffiniol i ansawdd pynciau mewn prifysgolion ar draws y byd.
Caiff y rhestr ei llunio trwy werthuso 4,438 o brifysgolion ledled y byd ac archwilio cyfanswm o ryw 1,117 o sefydliadau.
Dadansoddir cyfanswm o fwy na 127m o gyfeiriadau mewn dyfyniadau a 18,900 o raglenni.
Yn ôl rhestr eleni Newyddiaduraeth yw’r pwnc a raddiwyd uchaf ym Mhrifysgol Caerdydd (yn safle 34), ac mae bellach ymhlith 50 sefydliad elitaidd uchaf y byd yng nghategori’r pwnc Astudiaethau Cyfryngau a Chyfathrebu am y tro cyntaf erioed.
“Un o Ysgolion mwyaf blaenllaw’r byd”
Meddai’r Athro Stuart Allan, Pennaeth Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd o weld bod Rhestr ddiweddaraf QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc yn cadarnhau ein statws fel un o Ysgolion mwyaf blaenllaw’r byd yn ein maes.
“Mae pwysigrwydd newyddiaduraeth o safon ar gyfer bywyd cyhoeddus yn destun newyddion ynddo’i hun, yn sgîl canlyniadau ymchwiliad Leveson, gwleidyddiaeth Brexit yn y cyfryngau, ac ymddangosiad ‘newyddion ffug’ a ‘ffeithiau amgen’, wrth i’r Arlywydd Trump gael ei ethol yn yr Unol Daleithiau…”
Mae’r llwyddiant hwn yn dilyn cyhoeddiad pwysig y bydd Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd yn symud i adeilad newydd modern yn Natblygiad Sgwâr Canolog Caerdydd, yn ymyl y darlledwr cenedlaethol BBC Cymru.
Bydd symud yn helpu i greu rhyngwyneb academaidd â’r diwydiant, ac yn sicrhau bod yr Ysgol mewn lle canolog mewn amgylchedd cyfryngau bywiog ym mhrifddinas Cymru, gan helpu i greu cysylltiadau cryfach â’r diwydiant, a rhoi hwb i gyflogadwyedd myfyrwyr trwy ddarparu mynediad uniongyrchol i sefydliadau pwysig ym myd y cyfryngau o ran newyddiaduraeth, yn ogystal â’r diwydiannau creadigol a diwylliannol.
Ymhlith pynciau eraill y Brifysgol a gafodd le amlwg yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn 2017 roedd Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig (safle 39) a Seicoleg (safle 43).
Mae pynciau Prifysgol Caerdydd yn cael lle mewn cyfanswm o 30 o’r 46 o bynciau, ac ym mhob un o’r pum cyfleuster sy’n cael eu cynnwys yn y rhestr.
Mae deg pwnc yn y 100 uchaf, o gymharu ag wyth yn 2016, ac mae 23 o bynciau yn y 200 uchaf, o gymharu â 22 y llynedd.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol: “Fel Prifysgol rydym ni’n anelu'n uchel a’nhuchelgais yw bod ymhlith 100 prifysgol gorau’r byd yn gyson...”
“Fodd bynnag, ein her yn y tymor hir o hyd yw parhau i wella safonau yn gyffredinol a sicrhau safle yn y 100 uchaf yn gyffredinol.”
Cyhoeddir Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc bob blwyddyn.
Mae canlyniadau 2017 ar gael yma.